Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.2 Dewis symlrwydd yn hytrach na gwerth gorau

Ydych chi’n edrych yn fanwl ar y manylion wrth gymharu cost cynnyrch amgen? Rhowch gynnig ar y gweithgaredd hwn.

Gweithgaredd 3 Dewis y benthyciad cost isel

Timing: Caniatewch tua 5 munud ar gyfer y gweithgaredd hwn

Rydych yn prynu hwfer sy’n costio £100. Ond mae angen i chi fenthyg yr arian i’w brynu. Cynigir cyfres o ddewisiadau i chi fenthyg yr arian. Pa fenthyciad fyddech chi’n ei ddewis?

  • Benthyciad 1: talu £120 yn ôl ar ddiwedd y flwyddyn.
  • Benthyciad 2: talu £115 yn ôl ar ddiwedd y flwyddyn.
  • Benthyciad 3: talu ffi trefnu o £10 ac yna ad-daliadau misol cyfartal; y gyfradd llog yw 5% y flwyddyn.
  • Benthyciad 4: talu ffi trefnu o £5 ac yna ad-daliadau misol cyfartal; y gyfradd llog yw 8% y flwyddyn.
  • Benthyciad 5: talu rhandaliadau misol cyfartal ar gyfradd llog o 7% y flwyddyn, ynghyd â thâl terfynol o £3.
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Answer

Pa fenthyciad wnaethoch chi ei ddewis? Efallai y cewch eich synnu o ddarganfod mai Benthyciadau 4 a 5 yw’r benthyciadau rhataf. Y broblem yw nad yw pobl yn hoffi cymhlethdod ac felly’n aml yn dewis cynnyrch â phrisiau uwch lle mae’r prisio’n symlach. Er mwyn cymharu, dyma gyfanswm costau pob opsiwn benthyca:

  • Mae Benthyciad 2 yn costio £115
  • Mae Benthyciad 3 yn costio £112.70
  • Mae Benthyciad 4 yn costio £109.40
  • Mae Benthyciad 5 yn costio £106.80
  • Mae Benthyciad 1 yn costio £120

Wrth i’r opsiynau ddod yn fwy cymhleth, mae dibynadwyedd ein penderfyniadau’n dirywio’n gyflym ac rydym yn fwy tebygol o fynd am yr opsiynau symlaf.

Hefyd, dydyn ni ddim yn cael llawer o ymarfer yn gwneud hyn. Dydy ein penderfyniadau ariannol mawr – fel prynu cartref neu gar – ddim yn digwydd yn aml iawn. Felly, does dim llawer o gyfle i ymarfer, ac o ganlyniad mae llawer o gyfle i anghofio’r hyn rydym wedi’i ddysgu y tro diwethaf i ni wneud penderfyniad ariannol mawr.

Nodyn technegol

I egluro sut y ceir yr atebion i Fenthyciadau 3, 4 a 5, dangosir cyfrifiad manwl ar gyfer Benthyciad 3 isod.

Gallwch ddefnyddio’r un fethodoleg i gael yr atebion ar gyfer Benthyciadau 4 a 5.

Ym mhob achos, ad-delir y benthyciad o £100 mewn 12 rhandaliad cyfartal, gyda’r rhain yn cael eu gwneud ar ddiwedd pob un o ddeuddeg mis y flwyddyn.

Sylwch fod y broses yn cynnwys peth ‘talgrynnu’, felly efallai y bydd eich atebion yn wahanol o ychydig geiniogau i’r rhai uchod.

Benthyciad 3
Mis Benthyciad o/s Llog misol am 5% y flwyddyn
1 £100.00 £0.42
2 £91.67 £0.35
3 £83.34 £0.35
4 £75.01 £0.31
5 £66.68 £0.28
6 £58.35 £0.24
7 £50.02 £0.21
8 £41.69 £0.18
9 £33.36 £0.14
10 £25.03 £0.11
11 £16.70 £0.07
12 £8.37 £0.04
Cyfanswm Llog £2.70
Ffi ymlaen llaw £10.00
Cyfanswm yr ad-daliadau (gan gynnwys y benthyciad gwreiddiol o £100) £112.70