Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.3 Peidio â gwerthuso’r dystiolaeth yn iawn wrth brynu pethau

Wrth brynu nwyddau’r cartref, efallai y byddwch yn edrych yn ofalus iawn ar yr adolygiadau o’u perfformiad, ond faint o sylw ydych chi’n ei roi i hyn yn eich penderfyniadau? Rhowch gynnig ar y gweithgaredd hwn.

Gweithgaredd 4 Pa un yw’r fargen orau am beiriant golchi?

Timing: Caniatewch tua 5 munud ar gyfer y gweithgaredd hwn

Rydych yn prynu peiriant golchi newydd. Mae’r peiriant o siop A yn costio £600 ac mae’n cynnwys gwarant 5 mlynedd ar gyfer un newydd os bydd yn torri i lawr. Mae Siop B yn gwerthu’r un peiriant am £500 ond nid yw’n cynnig gwarant.

Mae profion a wneir gan grŵp defnyddwyr yn dangos bod gan y peiriant hwn siawns o 25% y flwyddyn o dorri i lawr a bod angen un newydd.

Cymerwch fod gennych yr arian i brynu’r naill ddêl neu’r llall ac mai dim ond yn yr effaith ariannol dros y 5 mlynedd nesaf y mae gennych ddiddordeb. Ym mha siop fyddech chi’n prynu?

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Answer

Y dewis gorau yw prynu’r peiriant o siop A, gan mai’r tebygolrwydd yw y bydd eich peiriant golchi dillad yn torri i lawr ac y bydd angen ei adnewyddu o fewn 5 mlynedd.

Y tebygolrwydd y bydd y peiriant golchi dillad yn iawn ym mlwyddyn 1 yw 75% (100% llai’r siawns o 25% y bydd yn torri).

Mae’r tebygolrwydd hwn yn berthnasol ym mhob blwyddyn ddilynol.

Felly, y tebygolrwydd na fydd by peiriant yn torri i lawr dros 5 mlynedd yw:

  • 75% x 75% x 75% x 75% x 75% = 24%

Felly dros gyfnod o 5 mlynedd, mae’n debygol y bydd y brand arbennig hwn o beiriant golchi angen ei newid. Y siawns o hyn yw 76% (100% llai 24%). Felly, y dewis doethach o gofio’r hyn yr ydych yn ei wybod yw talu mwy a mynd am y fargen o siop A, gan y bydd yn cyfnewid y peiriant golchi am un newydd yn ddi-dâl os bydd yn torri i lawr cyn i bum mlynedd fynd heibio.

Ond, os ydyn ni’n onest, byddai’n well dod o hyd i beiriant golchi gwahanol sy’n llawer llai tebygol o dorri lawr na’r un yn yr enghraifft yma! Yn wir, mae peiriannau golchi’r dyddiau hyn yn llawer mwy dibynadwy yn gyffredinol na’r un yn y gweithgaredd hwn.

Rydyn ni’n dda iawn am beidio â disgwyl ‘yr annisgwyl’. A dweud y gwir, dydyn ni ddim yn hoffi pethau anrhagweladwy o gwbl. Mae cynllunio ariannol yn golygu gosod ein hunain mewn sefyllfaoedd nad ydym eisiau meddwl amdanynt. Felly, efallai y cawn ein temtio i beidio â gwneud darpariaeth ariannol ar gyfer digwyddiadau annisgwyl – fel atgyweiriadau mawr i’n ceir, gorfod newid ein boeleri, neu ganfod bod angen gosod teils newydd ar y to. Ond, mae bob amser yn well disgwyl yr annisgwyl – a chynllunio ar ei gyfer!