Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

6 Model gwneud penderfyniadau i gymryd rheolaeth o benderfyniadau gwariant

Ar ôl edrych ar yr amrywiol ddylanwadau mewnol ac allanol ar benderfyniadau gwario, mae’n bryd i chi reoli sut rydych chi’n mynd ati i wario arian. Mae rhai camau syml a all eich helpu i wneud dewisiadau da (neu well o leiaf) o gynnyrch a gwasanaethau.

Cafodd yr adnodd hwn ei greu a’i recordio’n wreiddiol yn Saesneg ar gyfer Academi Arian MSE ac mae ar gael yma. [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .

Gwyliwch Fideo 3 ar y model pedwar cam ar gyfer gwneud penderfyniadau.

Download this video clip.Video player: Fideo 3 Model gwneud penderfyniadau i gymryd rheolaeth o benderfyniadau gwariant
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
Fideo 3 Model gwneud penderfyniadau i gymryd rheolaeth o benderfyniadau gwariant
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Gweithgaredd 8 Gwneud penderfyniadau gwario

Timing: Caniatewch tua 5 munud ar gyfer y gweithgaredd hwn

Meddyliwch yn ôl am bryniant mawr diweddar a wnaed gennych – car efallai, teclyn i’r tŷ, cyfrifiadur newydd. Ar ôl gwylio’r fideo, pe baech chi nawr yn gwneud penderfyniad gwario tebyg, a fyddech chi’n mynd ati’n wahanol?

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Answer

Yn amlwg, mae’r atebion yn bersonol i chi. Y cwestiynau allweddol yw:

  • Wnaethoch chi wneud rhywfaint o ymchwil marchnad cyn prynu?
  • A wnaethoch chi gymryd amser i ddod o hyd i’r fargen orau?
  • A wnaethoch chi wedyn weithredu’n brydlon i brynu’r cynnyrch?
  • A wnaethoch chi negodi telerau’r fargen, gan gynnwys y pris?
  • Oeddech chi’n barod i newid gwasanaethau wrth brynu cynnyrch fel cynnyrch yswiriant, a gwasanaethau cyfleustodau, rhyngrwyd a ffôn symudol?
  • A ydych chi’n defnyddio’r canlyniad i’ch arwain chi wrth wneud y pryniant mawr nesaf?

Efallai fod hyn i gyd yn ymddangos yn dipyn o dasg – ond efallai y cewch eich synnu faint y gallwch ei arbed bob blwyddyn drwy ddefnyddio’r model pedwar cam hwn.

Nesaf, cewch gwis byr cyn archwilio sut y gall y model pedwar cam helpu wrth brynu cynnyrch yswiriant.