Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

8 Pam ydyn ni’n prynu yswiriant?

Dylech yn awr fod yn gyfarwydd â’r model pedwar cam ar gyfer gwneud penderfyniadau. Rydych chi nawr yn mynd i brofi’r model drwy ei gymhwyso i un categori gwariant cartref – prynu cynnyrch yswiriant.

Mae sawl rheswm dros brofi’r model ar yswiriant:

  • Mae prynu cynnyrch yswiriant yn weithgaredd sy’n cael ei wneud yn rheolaidd gan bron bob aelwyd.
  • Ceir gwahanol fathau o yswiriant – moduron, cartref, anifail anwes, iechyd, teithio ac eraill – pob un â nodweddion gwahanol. Mae llawer o ddarparwyr cynnyrch yswiriant hefyd. Mae hyn yn golygu bod angen i ddefnyddwyr dreulio amrywiaeth o wybodaeth. Mae’r model pedwar cam yn darparu’r modd i asesu’r gwahanol gynnyrch yswiriant hyn yn drwyadl a hwyluso dewisiadau priodol.
  • Bob blwyddyn, mae’r rhan fwyaf o gartrefi’n gwario symiau mawr ar yswiriant. Felly, os bydd defnyddio’r model yn gallu gwella’r dewis o gynnyrch, gallai’r arbedion a gynhyrchir fod yn sylweddol.
Mae’r ffigur yn llun o ddyn yn dal contract yswiriant o’i flaen. Mae gan y dyn bin ysgrifennu yn ei law yn pwyntio at y man lle mae’n rhaid llofnodi’r contract.
Ffigur 5 Edrychwch ar y print mân ar bolisïau yswiriant cyn bod angen i chi wneud hawliad

Yn gyntaf, gadewch i ni edrych ar hanfodion yswiriant.

Dull i unigolion neu aelwydydd (neu sefydliadau) ddiogelu eu hunain rhag yr annisgwyl yw yswiriant. I wneud hyn, mae nhw’n talu swm o arian a elwir yn bremiwm i yswiriwr yn gyfnewid am gael eu hindemnio (gwarchod) yn erbyn y colledion sy’n deillio o beryglon penodol, o dan amodau a bennir mewn contract. Gelwir y contract hwn yn bolisi yswiriant.

Pan fyddwch yn codi polisi yswiriant rydych yn trosglwyddo i'r yswiriwr y risg o golled ariannol sy'n deillio o'r perygl, ac felly rydych yn lleihau'r canlyniadau posibl i chi'ch hun.

Actiwarïaid - yn darparu ystadegau i yswirwyr i helpu i fesur y risgiau y mae yswirwyr yn eu hysgwyddo. Mae angen data ar yswirwyr ynghylch tebygolrwydd yr anawsterau y maent yn cynnig yswiriant ar eu cyfer – marwolaeth, salwch, afiechyd, byrgleriaeth, damweiniau ac yn y blaen – a data am bobl o wahanol oedrannau, rhyw, lleoliadau, codau post ac aelwydydd, er mwyn iddynt allu amcangyfrif eu risgiau o dalu allan.

Bydd data actiwaraidd yn rhoi brasamcan o’r hawliadau y gallai’r yswiriwr eu hwynebu yn y dyfodol ar draws yr amrywiaeth o beryglon y maent yn eu hyswirio. Bydd yswirwyr wedyn yn ceisio gosod premiymau fel y bydd cyfanswm incwm premiwm, ar gyfartaledd, yn talu am gost talu allan am hawliadau, cronni cronfeydd wrth gefn a gwneud elw.

Mae yswirwyr yn lledaenu eu risg drwy yswirio llawer o unigolion ac aelwydydd yn erbyn gwahanol risgiau. Drwy yswirio nifer fawr o risgiau, bydd faint o weithiau y bydd yn rhaid i yswirwyr eu talu ar gyfartaledd, yn fwy rhagweladwy, ac felly hefyd y cyfanswm y bydd yn rhaid iddynt ei dalu mewn unrhyw flwyddyn benodol. Wrth ysgwyddo risgiau llawer o bobl a’u cronni, mae’r yswiriwr yn wynebu dyfodol mwy rhagweladwy nag y byddai deiliaid polisi unigol pe byddai’n rhaid iddynt wynebu eu risgiau eu hunain.

Beth yw’r gwahanol strategaethau y gallai pobl eu defnyddio ar gyfer rheoli risg ac ansicrwydd eu hunain?

Un dull yw anwybyddu’r risg. Pe bai’r perygl yn dod i’r amlwg wedyn, gallai fod goblygiadau ariannol negyddol mawr, ac felly byddai hon yn strategaeth risg uchel.

Dull arall yw ceisio dileu neu leihau risg. Gallai’r strategaethau yma gynnwys gosod larymau tŷ (i leihau’r risg o fyrgleriaeth neu dân) neu fwyta’n iach ac ymarfer corff (i leihau’r risg o farwolaeth gynamserol). Gallai’r rhain fod o fudd ynddynt eu hunain – er y gallai fod costau ynghlwm wrthynt hefyd – ond ni allant ddileu holl risgiau ac ansicrwydd bywyd.

Strategaeth wahanol yw ‘rhagdybio risg’. Mae hyn yn golygu derbyn ac ymgymryd ag effaith ariannol bosibl y perygl yn cael ei wireddu. Gellid ei alw hefyd yn ‘hunan-yswirio’: rhoi cynilion o’r neilltu i dalu costau unrhyw golled ariannol bosibl.

Gall hon fod yn strategaeth a fabwysiedir drwy ddewis gan bobl sy’n cymryd risg neu sydd â digon o incwm neu gynilion i dalu am golledion posibl. Gellir ei mabwysiadu hefyd yn ddiofyn pan nad oes mathau eraill o yswiriant ar gael neu pan fyddant yn rhy ddrud.

Ac eto, lle gallai effaith ariannol rhywbeth sy’n digwydd fod yn fawr, er enghraifft, ailaddurno eich cartref a phrynu dodrefn ac eitemau personol newydd ar ôl tân yn y cartref, mae pobl sy’n gallu fforddio prynu yswiriant yn tueddu i wneud hynny i drosglwyddo’r risg ariannol i’r cwmni yswiriant.

Y realiti yw bod rhai cynhyrchion yswiriant yn orfodol – yn sicr yswiriant modur os oes gennych gerbyd a chartref os oes gennych forgais (mae benthycwyr yn gofyn am hyn fel arfer).

Gyda chynnyrch yswiriant eraill, mae prynu yn ddewisol – er enghraifft yswiriant cynnwys cartref ac yswiriant teithio. Ond efallai yr hoffech chi ystyried a ydych chi wir eisiau hunan-yswirio yn erbyn rhai o’r costau mwy eithafol a allai ddisgyn i chi (ee, treulio cyfnod yn yr ysbyty yn ystod gwyliau yn yr Unol Daleithiau, sy’n gallu’n hawdd gostio degau o filoedd o ddoleri).

Mewn mannau eraill, efallai y teimlwch fod gwead cymdeithasol y DU yn diddymu’r angen i brynu yswiriant – yr enghraifft orau yma yw bodolaeth y GIG sydd, gellir dadlau, yn gwneud prynu yswiriant iechyd yn afresymegol (oni bai ei fod efallai yn cael ei gynnig am ddim neu am bris gostyngol iawn drwy eich cyflogwr).

Y naill ffordd neu'r llall, mae pob categori yswiriant yn wahanol ac mae gwneud dewisiadau effeithiol rhwng y cynnyrch - neu, yn wir, penderfynu a oes angen i chi brynu yswiriant yn y lle cyntaf - yn lle da i ddefnyddio'r model pedwar cam.

Gweithgaredd 9 Amcangyfrif atebolrwydd posibl yswiriwr

Timing: Caniatewch tua 5 munud ar gyfer y gweithgaredd hwn

Beth yw’r ddau gategori o wybodaeth y mae ar yswiriwr ei angen i ragweld faint o arian y bydd yn rhaid iddo ei dalu o dan y contractau yswiriant y mae wedi’u gwerthu?

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Answer

Dyma’r ddau gategori:

  • y tebygolrwydd y bydd hawliadau'n cael eu gwneud gan y rhai sydd wedi'u hyswirio
  • cost bodloni’r hawliadau hynny (ar yr amod bod telerau’r yswiriant yn talu am yr hawliadau)

Gellir ei fynegi, fel arall, fel hyn:

Cyfanswm y gost i’r yswiriwr = nifer disgwyliedig yr hawliadau x cost gyfartalog ddisgwyliedig hawliad

Gall y data a gesglir gan yswirwyr o hawliadau blaenorol fod yn arweiniad da iawn i ddisgwyliad cyfartalog hawliadau yn y dyfodol, a faint y gallai fod angen iddynt ei dalu fesul hawliad.

Ond y risg i’r yswiriwr yw eu bod yn cael nifer uchel o hawliadau flwyddyn sy’n golygu bod y cyfanswm y maent yn ei dalu allan yn llawer uwch na’r cyfartaledd. Er enghraifft, mae hawliadau dan bolisïau yswiriant cartref a chynnwys yn enfawr pan gaiff y wlad ei tharo gan dywydd eithriadol fel Storm Fawr Hydref 1987, neu’r llifogydd mwy diweddar.