Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

9 Cymhwyso Camau 1 a 2 y model gwneud penderfyniadau i yswiriant

Nawr byddwch yn edrych eto ar y model pedwar cam ac yn gweld sut y gallwn ei gymhwyso i yswiriant.

Mae’r ffigur yn dangos y model pedwar cam ar gyfer gwneud penderfyniadau. Mae’r pedwar cam – ‘Asesu’, ‘Penderfynu’, ‘Gweithredu’ ac ‘Adolygu’ – yn cael eu dangos gyda saethau’n nodi (ar ffurf cylch) y drefn y cymerir y camau wrth wneud penderfyniadau.
Ffigur 6 Y model pedwar cam ar gyfer gwneud penderfyniadau

Ar gyfer Cam 1, lle byddwch yn asesu’r sefyllfa, mae’n werth pwysleisio arwyddocâd y peryglon y gellir yswirio yn eu herbyn, gan fod polisïau yswiriant cysylltiedig yn amrywio yn ôl amgylchiadau unigol. Yswiriant bywyd, er enghraifft, mae hwn yn debygol o fod yn arbennig o bwysig mewn teulu gyda phlant a gydag un person yn ennill incwm, ond gallai person sengl heb unrhyw ddibynyddion ei ystyried yn amherthnasol.

Ffactor pwysig i’w ystyried yw pa warchodaeth arall sydd ar gael. Mae budd-daliadau’r wladwriaeth yn rhan o’r hafaliad hwn, yn yr un modd ag unrhyw fuddion sydd ar gael gan gyflogwr.

Gyda chyflogwyr mawr, gall y buddion gynnwys tâl salwch sy'n uwch na'r isafswm statudol, buddion 'marw yn y swydd' (math o yswiriant bywyd sydd fel arfer yn talu tair neu bedair gwaith eich cyflog) ac yswiriant meddygol preifat (PMI).

Fel rhan o’ch cynllunio Cam 1, mae angen i chi ddarganfod beth y mae gennych hawl iddo. Efallai na fydd eich hawliau’n disodli’n llwyr yr angen am yswiriant preifat ychwanegol, ond mae’n bwysig gwybod beth ydynt, gan y gallent leihau faint o warchodaeth ychwanegol sydd ei angen.

Ffactor arall i’w asesu yng Ngham 1 yw eich agwedd tuag at risg. Bydd sawl ffactor yn effeithio ar eich safbwynt gwrth-risg (neu fel arall), gan gynnwys oedran, chwaeth a dewisiadau. Po fwyaf gwrth-risg ydych chi, y mwyaf tebygol ydych chi o ystyried yswiriant ychwanegol.

Cam 2 yw pan fyddwch yn penderfynu pa bolisïau yswiriant ychwanegol i'w prynu. Fel rheol, po fwyaf fydd effaith ariannol bosibl perygl, y mwyaf tebygol yw hi y byddwch yn ystyried yswirio yn ei erbyn. Y peth allweddol i’w ystyried yw a allech chi ysgwyddo’r gost pe bai’r gwaethaf yn digwydd – hyd yn oed os yw’r risg yn isel iawn.

Yr enghraifft amlwg o hyn yw yswirio eich cartref – byddai costau ailadeiladu ymhell y tu hwnt i fodd y rhan fwyaf o bobl, ac felly mae’r rhan fwyaf o berchnogion yn penderfynu bod symud y risg yn gwneud synnwyr (neu fod yn rhaid gwneud hynny fel amod o’u morgais).

Ond lle byddai costau’r golled yn llai, gellir ystyried hunan-yswirio gael ei ystyried yn ddewis amgen gwell. I ddangos hyn, efallai y byddai’n rhatach prynu ffôn symudol newydd yn hytrach na thalu am yr yswiriant ar ei gyfer dros nifer o flynyddoedd.

Un peth arall y mae angen i chi feddwl amdano yw cost y polisi yswiriant. Fel arfer, po uchaf y premiwm, y lleiaf tebygol yw rhywun o godi polisi yswiriant.

Fodd bynnag, er ei bod yn ddamcaniaethol bosibl i chi gyfrifo’r budd disgwyliedig o bolisi yswiriant, mae’n anodd gwneud hynny yn ymarferol. Efallai y byddwch yn gallu cyfrifo'r golled ariannol y byddech yn ei dioddef, ond mae'n annhebygol y byddech yn gallu cyfrifo ffigur cywir ar gyfer pa mor debygol yw hi i'ch car gael ei ddwyn, neu i chi ollwng a thorri eich ffôn symudol.

Bydd eich penderfyniadau ynghylch a ddylid codi polisïau yswiriant yn cael effaith uniongyrchol ar gyllideb eich aelwyd: po fwyaf o bolisïau y byddwch yn eu prynu po fwyaf y bydd yn rhaid i chi dalu amdanynt.

Ond mae’n werth edrych ar ffyrdd o ddod â phremiymau yn ôl i lawr. Er enghraifft, efallai y bydd gosod cloeon ffenestr neu larwm lladron yn gostwng premiymau yswiriant eich cartref.

Un ffordd o feddwl am effaith premiymau yswiriant ar gyllideb eich aelwyd yw sylweddoli bod y gost gyfredol yn anelu at eich amddiffyn chi a’ch aelwyd rhag costau uwch yn y dyfodol.