Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1 Y cynnydd mewn benthyca yn y DU

Mae sawl math o fenthyca – gan gynnwys dyled cardiau credyd, gorddrafftiau, benthyciadau, benthyciadau myfyrwyr a morgeisi.

Gellir benthyca i ariannu popeth o wariant dydd i ddydd, i wyliau ac i eitemau yr ydych yn eu defnyddio dros nifer o flynyddoedd, megis dodrefn, ceir, eiddo a gwelliannau i'ch cartref.

Mae’r ddelwedd yn llun o gwpl ifanc yn eu cartref yw’r llun mewn trafodaethau gyda’u cynghorydd ariannol (benywaidd). Mae’r cwpl yn adolygu dogfennau cynllunio ariannol a ddarperir gan y cynghorydd.
Ffigur 1 Mae’r rhan fwyaf o bobl yn benthyca arian ar wahanol gyfnodau yn eu bywyd

Ers 1993 yn y DU, mae crynswth (cyfanswm) y ddyled bersonol wedi codi dros 3.5 gwaith i gyfanswm o £1.8 triliwn. Mae’r rhan fwyaf – sef tua 85% – yn ddyled sicredig (fel morgeisi). Mae hwn yn arian a roddir ar fenthyg yn erbyn diogelwch eiddo neu asedau eraill. Gall y rhai sy’n rhoi benthyg gymryd meddiant o’r asedau hyn os na fydd y benthyciwr yn ad-dalu’r arian. Felly, y sawl sy’n rhoi’r benthyciad yn hytrach na’r benthyciwr sy’n gallu elwa o sicrhau dyled. Mae’r gweddill yn ddyled ansicredig (fel gorddrafftiau) lle nad oes gan y sawl sy’n rhoi’r benthyciad lwybr uniongyrchol at eiddo’r benthyciwr – fel ei dŷ – os na fydd yn ad-dalu. Mae hyn fel arfer yn ddrutach na dyled wedi’i gwarantu.

Tyfodd cyfanswm y ddyled hon yn gyflym yn y 1990au a hyd at ddiwedd y 2000au. Daeth argyfwng ariannol 2007/8 a’r dirwasgiad dilynol yn economi’r DU â’r cyfnod hwn o dwf cyflym mewn dyled i ben yn ddisymwth, gyda rhoddwyr benthyciadau – y banciau a’r cymdeithasau adeiladu – yn mabwysiadu dull mwy gofalus o roi benthyg arian. Yn ogystal, mae’r rheoleiddiwr gwasanaethau ariannol, yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA), wedi cyflwyno rheolau llymach ar arferion sefydliadau ariannol wrth roi benthyciadau. Fodd bynnag, mae’r blynyddoedd diwethaf wedi gweld twf o’r newydd mewn dyled bersonol – yn enwedig dyled ansicredig.

Gweithgaredd 1 Pam fod dyled bersonol yn y DU wedi cynyddu cymaint?

Timing: Caniatewch tua 5 munud ar gyfer y gweithgaredd hwn

A allwch feddwl am unrhyw ffactorau sydd wedi cyfrannu at y cynnydd enfawr mewn dyled bersonol yn y degawdau diwethaf? Os gallwch feddwl am fwy nag un ffactor, pa un sydd wedi cael yr effaith fwyaf yn eich barn chi?

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Answer

Mae sawl rheswm, er y bydd economegwyr yn anghytuno â’i gilydd ynghylch y prif reswm.

Un ffactor fu’r cynnydd cyflym mewn prisiau tai dros yr un cyfnod. Mae’r rhan fwyaf o roi benthyciadau yn digwydd drwy forgeisi i brynu eiddo. Gyda phrisiau’n codi, mae pobl angen benthyg mwy.

Eto i gyd, yr hyn sydd, gellid dadlau, wedi sbarduno’r twf mewn morgeisi a mathau eraill o ddyled yw safonau benthyca llacach, yn enwedig yn y 2000au cynnar cyn yr argyfwng ariannol a ddechreuodd yn 2007/8. Roedd rhai benthycwyr morgais yn caniatáu i bobl fenthyg 125% o werth eiddo, er enghraifft, yr adeg hynny.

Gellid dadlau bod cardiau credyd a benthyciadau hefyd yn cael eu darparu’n rhwydd i rai pobl na allent eu fforddio.

Mae ffactorau eraill wedi bod yn ddylanwadol megis incwm cynyddol (o leiaf tan 2007/8) sydd wedi helpu i wneud benthyca’n fforddiadwy, yn ogystal â’r lefelau isel o gyfraddau llog a welwyd yn y DU o’r 2000au.