Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2 Dyled dda o’i chymharu â dyled ddrwg

Nid yw dyled yn ddrwg, ond mae dyled ddrwg yn ddrwg. Nid yw benthyg arian i gael rhywbeth nawr, y byddai angen i chi aros amdano fel arall, yn anghywir yn awtomatig.

Mae’r ddelwedd yn dangos dau arwydd ffordd ar yr un polyn cynnal. Mae un arwydd yn dweud ‘Credyd Da’, a’r llall yn dweud ‘Credyd Drwg’
Ffigur 2 Mae’n hanfodol gwneud y penderfyniadau iawn am fenthyca

Wrth gwrs, mae angen cymryd rhai rhagofalon mawr. Mae’n bwysig bod benthycwyr:

  • yn creu cyllideb a chynllunio ar ei gyfer
  • yn gallu fforddio’r ad-daliadau’n gyfforddus
  • yn sicrhau ei fod ar y gyfradd rataf bosibl.

Wedi mynd drwy hynny i gyd, ar yr amod ei fod yn benderfyniad rhesymegol, sydd wedi’i reoli ac wedi’i gynllunio, mae’n fater o ddewis personol. Mae dyledion problemus go iawn yn tueddu i ddeillio o dri phrif beth:

  • newidiadau annisgwyl mewn amgylchiadau
  • gorwario cyson
  • anwybodaeth – pobl sy’n benthyca heb ddeall gwir effaith hynny, a’r ffaith bod yn rhaid i chi ad-dalu’r arian os oes arnoch chi arian.

Mae dyled fel tân: defnyddiwch ef yn gywir a gall fod yn arf defnyddiol, ond gwnewch un camgymeriad bach a gallwch losgi’ch bysedd.

Gweithgaredd 2 Astudiaethau achos ar ddyled

Timing: Caniatewch tua 10 munud ar gyfer y gweithgaredd hwn

Dyma bedair astudiaeth achos o ddyled, a chyfeiriwyd at rai ohonynt yn y clip sain rhagarweiniol ar gyfer y sesiwn hon. Mae rhai yn ddyledion da (benthyciadau synhwyrol) ac mae rhai yn ddyledion drwg (benthyciadau annoeth). Ewch ati i ganfod i ba gategori y mae pob astudiaeth achos yn perthyn, a pham. Fel y gwelwch, nid yw bob amser yn syml.

Rydyn ni wedi bod yn cynilo i gael morgais, lle i mi a fy nheulu fyw. Rydyn ni wedi llwyddo i gael blaendal digon mawr – dros 10%. Rydyn ni’n chwilio am rywle ar gyfer y tymor hir, nid buddsoddiad. Rydym am gael morgais cyfradd sefydlog am bum mlynedd. Mae’n fforddiadwy ac yn rhatach na’n rhent presennol mewn gwirionedd. Benthyca synhwyrol?
Astudiaeth achos 1
Rydw i newydd weld gwyliau 2 wythnos i Dubai. £5,000 yw’r gost. Rydw i’n ennill £19,000 y flwyddyn, ond mae’r banc yn dweud y byddan nhw’n rhoi benthyg yr arian i mi sy’n ad-daladwy dros dair blynedd. Benthyca synhwyrol?
Astudiaeth achos 2
Fe wnes i golli fy swydd chwe mis yn ôl ac mae wedi bod yn anodd iawn dod o hyd i swydd newydd. Yr wythnos hon, rydw i newydd gael cynnig swydd newydd. Mae yng nghefn gwlad. Bydd yn rhaid i mi symud fy hun a fy nheulu, ond rydyn ni wedi dod o hyd i dŷ y gallwn ni fforddio byw ynddo. Rydw i angen car i fynd yn ôl ac ymlaen i’r gwaith. Ond mae gen i sgôr credyd gwael iawn oherwydd fy mod i wedi colli llawer o daliadau oherwydd diffyg arian, felly mae’n mynd i gostio 20% o log i mi ar y benthyciad ac mae’r ad-daliadau dros 5 mlynedd yn mynd i roi pwysau arnom yn ariannol – ond gallwn ymdopi o drwch blewyn. Fodd bynnag, mae gen i gyfnod prawf o 3 mis yn fy swydd. Os nad ydw i’n cael y car, alla i ddim cymryd y swydd. Os byddaf yn cael y car ac yn cymryd y swydd ond yn methu fy nghyfnod prawf 3 mis, byddaf mewn trafferthion ariannol ac yn methu ad-dalu’r benthyciad car. Benthyca synhwyrol?
Astudiaeth achos 3
Rydw i’n prynu tŷ. £250,000 yw’r gost. Yr oedd gennyf £25,000 o gynilion am flaendal, ond yr uchafswm morgais y byddai’r gymdeithas adeiladu’n ei roi imi oedd £200,000. I dalu am y gwahaniaeth fe es i ar-lein a benthyca’r £25,000 arall yr oedd ei angen arnaf drwy fenthyciad banc 5 mlynedd. Benthyca synhwyrol?
Astudiaeth achos 4

Ateb

Astudiaeth achos 1: Mae hyn yn amlwg yn fenthyca synhwyrol. Mae cost benthyca yn llai na rhentu ac mae’r cwpl yn talu morgais fforddiadwy i’w galluogi i brynu eu cartref eu hunain. Felly mae’n ddyled dda.

Astudiaeth achos 2: Benthyca anystyriol yw hwn. Mae’r benthyciad ar gyfer gwyliau sy’n costio mwy na chwarter yr incwm gros. Bydd ad-dalu'r benthyciad yn cymryd tair blynedd am wyliau sy'n para pythefnos. Sut bydd gwyliau’r flwyddyn nesaf yn cael ei ariannu? Felly mae hon yn ddyled ddrwg.

Astudiaeth achos 3: Mae hon yn anoddach – ond gellid dadlau mai benthyca synhwyrol sydd yma. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn mynd drwy’r cyfnod prawf wrth ddechrau swydd, felly mae benthyca arian i brynu’r car i gael y swydd yn ymddygiad rhesymegol. Os gwneir ad-daliadau pan fyddant yn ddyledus, mae’n debygol y bydd gwelliant yn sgôr credyd y benthyciwr, sy’n golygu bod benthyca yn y dyfodol yn rhatach. Os aiff pethau o chwith, gellid gwerthu’r car i helpu i ad-dalu’r benthyciad sy’n ddyledus. Ond yn gyffredinol, gallem alw hon yn ddyled ‘lwyd’.

Astudiaeth achos 4: Ddim yn synhwyrol o gwbl. Mae’n hollol ddi-fudd. Bydd y gymdeithas adeiladu eisiau gwybod sut mae’r ‘£25,000 arall’ yn cael ei ariannu. Pan fyddant yn canfod ei fod yn arian wedi’i fenthyca, byddant yn bwydo cost hyn i’r benthyciwr i’w hasesiad o faint y morgais y maent yn barod i’w roi – a’r canlyniad tebygol yw y byddant yn rhoi benthyciad llai na’r cynnig gwreiddiol o £200,000. Felly, yn amlwg, mae hon yn ddyled ddrwg.

Felly, mae’r cwestiwn a yw benthyca’n synhwyrol yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Yn sicr, nid yw benthyca bob amser yn ‘beth drwg’. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’n fodd i brynu asedau allweddol megis eiddo a cheir. Ac yn y rhan fwyaf o achosion mae benthycwyr yn gallu ad-dalu eu dyledion heb straen ariannol iddynt hwy eu hunain na’u teuluoedd.

Mae angen ichi droi nawr at y ffactorau a fydd yn effeithio ar eich gallu i fenthyca arian a’r telerau ar gyfer rhoi benthyg arian i chi.

Mae hyn yn eich arwain at yr asiantaethau gwirio credyd a’u sgoriau o ran eich teilyngdod credyd.