3.3 Awgrymiadau da i helpu eich teilyngdod credyd
Mae’r rhan fwyaf o’r awgrymiadau allweddol ar gyfer rheoli a gwella eich sgôr credyd yn deillio o ‘arferion ariannol da’:
- Gwnewch yn siŵr nad ydych chi'n hwyr yn gwneud unrhyw ad-daliadau gan y gallant ymddangos ar eich adroddiad credyd, – mae hyd yn oed rhai cytundebau rhentu wedi'u cofrestru.
- Peidiwch â gwneud cais am lawer o gyfrifon mewn cyfnod byr, a cheisiwch osgoi unrhyw geisiadau cyn rhywbeth mawr, fel cais am forgais.
- Ystyriwch gau cyfrifon cardiau credyd nad ydych yn eu defnyddio a thorri'r cardiau. Er nad ydych yn eu defnyddio, efallai y bydd y cyfyngiadau credyd ar gyfer y cardiau hyn yn cyfyngu ar eich gallu i fenthyca yn rhywle arall. Ond i gymhlethu pethau, gallai cael gwared â chardiau yr ydych chi wedi’u defnyddio’n gyfrifol am gyfnod hir o amser ostwng eich sgôr credyd felly mae’n aml yn well eu cadw ar agor, er nad yw’n wyddor fanwl. I daro llwybr canol teg – os oes gennych chi lawer o gardiau credyd nad ydych yn eu defnyddio, caewch rai cardiau, ond peidiwch â chau’r cwbl. Ac yn anad dim, peidiwch â gwario hyd eithaf eich terfynau.
- Ceisiwch reoli eich dyledion tuag i lawr, gan ganolbwyntio ar y rhai drutaf yn gyntaf, gan y gall hyn helpu eich sgôr credyd.
- Osgowch fenthyciadau diwrnod cyflog. Maen nhw nid yn unig yn ddrud iawn, ond gall presenoldeb un ar eich ffeil fod yn ergyd derfynol i geisiadau eraill.
Hefyd, cofiwch beidio byth â dweud celwydd wrth wneud unrhyw geisiadau am gredyd oherwydd, petai hynny’n cael ei ganfod, gallai hyn ddod yn ôl i’ch plagio chi.