Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechreuwch y cwrs yma am ddim nawr. Crëwch gofrif a mewngofnodwch. Ar ôl o chi gwblhau cwrs byddwch yn derbyn datganiad cyfranogiad neu fathodyn digidol os oes un ar gael.

Cwrs am ddim

Academi Arian MSE

5 Pwy yw’r rhoddwyr benthyciadau?

Mae llawer o sefydliadau yn y DU sy’n ymwneud â benthyca arian i bobl ac i aelwydydd. Mae hyn yn newyddion da i fenthycwyr sy’n gallu gwneud hynny – yn amodol ar eu cofnod credyd – edrychwch ar y farchnad am y bargeinion gorau.

Cafodd yr adnodd hwn ei greu a’i recordio’n wreiddiol yn Saesneg ar gyfer Academi Arian MSE ac mae ar gael yma [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .

Gwrandewch ar Glip Sain 1 sy’n eich arwain o amgylch y diwydiant rhoi benthyciadau yn y DU.

Download this audio clip.Audio player: Clip Sain 2 Pwy yw'r benthycwyr a beth yw'r gwahaniaethau rhyngddynt?

Mae’n ymddangos ein bod wedi’n tynghedu, rywbryd neu’i gilydd yn ein bywydau, i droi at fenthyciwr i gael help un ai i brynu cartref neu gar, neu i wireddu rhywbeth sy’n bwysig i ni, fel dechrau busnes. Felly, mae’n bwysig dod i adnabod benthycwyr. Mae banciau a chymdeithasau adeiladu, ond hefyd llawer o rai eraill. Ac maen nhw i gyd yn wahanol. Beth am edrych yn fanwl arnynt?

Mae’r diwydiant gwasanaethau ariannol yn cael ei reoli gan fanciau. Maen nhw’n cynnwys enwau mawr y ‘stryd fawr’, fel Barclays, Lloyds Banking Group, HSBC, Royal Bank of Scotland a Santander.

Mae llawer o fanciau llai hefyd, fel Metro Bank.

Ac mae yna fanciau heb rwydwaith o ganghennau, fel First Direct, un o is-gwmnïau HSBC, a Banc Shawbrook. Mae’r banciau hyn yn delio â chwsmeriaid dros y rhyngrwyd, drwy'r post neu dros y ffôn.

Cwmnïau cyfyngedig cyhoeddus yw banciau gan fwyaf. Mae hyn yn golygu eu bod nhw’n eiddo i’w cyfranddalwyr, sy’n disgwyl i ddifidendau gael eu talu iddynt. Ar hyn o bryd, mae gan Lywodraeth y DU lawer o gyfranddaliadau yn RBS o ganlyniad i’r gefnogaeth yr oedd ei hangen arno ar anterth argyfwng ariannol byd-eang 2008.

Mae cymdeithasau adeiladu yn wahanol. Maen nhw’n sefydliadau ‘cydfuddiannol’ sy’n eiddo i'w haelodau – sef eu cwsmeriaid sydd â chynilion a morgeisi gyda nhw. Fe’u sefydlwyd yn wreiddiol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn bennaf, gan grwpiau o bobl a fu’n cynilo gyda’i gilydd i brynu tir i adeiladu eu cartrefi arno. Yn ddiweddarach, daeth cymdeithasau adeiladu ‘parhaol’ i’r amlwg lle gallai pobl gynilo, hyd yn oed os nad oedd arnynt angen cael gafael ar gartref eu hunain.

Dydy cymdeithasau adeiladu ddim yn talu difidendau, felly, mewn theori, gallant fuddsoddi’r ‘arbediad’ hwn mewn cyfraddau llog gwell i'w cwsmeriaid. Mae nifer y cymdeithasau adeiladu wedi lleihau yn ystod y degawdau diwethaf – yn bennaf oherwydd bod y rhan fwyaf o'r cymdeithasau mwy wedi newid i statws banc yn ystod yr 1980au a’r 1990au. O ganlyniad i hynny, mae banciau’n flaenllaw yn y farchnad fenthyca nawr.

Ond peidiwch ag anghofio mathau eraill o fenthycwyr.

Mewn sawl achos, mae cwmnïau cyllid yn is-gwmnïau i fanciau, cymdeithasau adeiladu neu gwmnïau mawr. Maent yn arbenigo mewn benthyciadau personol, a chyllid i brynu ceir a chyllid adwerthu (y math o fenthyciadau ‘yn y siop’ y gallech eu defnyddio i brynu soffa neu beiriant golchi). Mae enghreifftiau o gwmnïau cyllid yn cynnwys Cars select, Ford Credit, Nemo Personal Finance a Hitachi Personal Finance.

Mae Undebau Credyd yn sefydliadau cydweithredol, sy’n aml yn fach ac yn cael eu rhedeg yn lleol. Gallant fod yn seiliedig ar y gymuned, gydag aelodau’n tueddu i ddod o grwpiau incwm isel; neu’n seiliedig ar waith, gydag aelodau’n cael eu cyflogi gan yr un cyflogwr neu yn yr un diwydiant. Un o’r mwyaf yw undeb credyd y Brifysgol Agored.

Mae’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn eiddo i Lywodraeth y DU ar hyn o bryd. Mae’n rhoi benthyg arian i fyfyrwyr mewn addysg uwch i’w galluogi i dalu eu treuliau. Gyda chost addysg uwch yn cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr wedi dod yn fenthyciwr mawr.

Wedyn mae gennych chi’r farchnad credyd cost uchel sydd wedi'i hanelu at bobl ag incwm isel yn bennaf. Maent yn darparu benthyciadau risg uchel, heb eu gwarantu i gwsmeriaid sydd â mynediad cyfyngedig neu ddim mynediad at gredyd prif ffrwd. Fel adlewyrchiad o hyn, mae cost credyd yn afresymol. Mae’r benthycwyr hyn yn cynnwys benthycwyr diwrnod cyflog. Mae modd trefnu i fenthyca arian yn gyflym dros y ffôn neu dros y rhyngrwyd. Mae’r benthycwyr hyn wedi cael eu beirniadu am eu cyfraddau llog uchel a’u dulliau marchnata ac adennill dyledion.

Mae’r farchnad credyd cost uchel hefyd yn cynnwys benthycwyr arian drws-i-ddrws, siopau prynu ar log, a gwystlwyr, yn ogystal â benthycwyr didrwydded sy’n masnachu’n anghyfreithlon.

Yn olaf, mae benthyciadau cyllidebu ar gael i bobl ar rai budd-daliadau gwladol (neu Flaendaliadau Cyllidebu ar gyfer pobl sy'n cael Credyd Cynhwysol). Benthyciadau di-log y mae’n rhaid eu talu’n ôl yw’r rhain, ac yn 2019 roedd ganddynt derfyn benthyca o wyth gant a deuddeg o bunnoedd.

Mae model busnes sylfaenol pob benthyciwr yr un fath mewn gwirionedd. Mae’n golygu benthyca arian o’r marchnadoedd cyhoeddus neu gyfanwerthu, a rhoi’r arian ar fenthyg (am elw) i bobl fel chi a fi, i gwmnïau, i awdurdodau lleol a hyd yn oed i lywodraethau.

End transcript: Clip Sain 2 Pwy yw'r benthycwyr a beth yw'r gwahaniaethau rhyngddynt?
Clip Sain 2 Pwy yw'r benthycwyr a beth yw'r gwahaniaethau rhyngddynt?
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).
AOM_2

Oeddech chi'n gwybod pe byddech chi'n astudio cwrs rhan-amser â thâl gyda'r Brifysgol Agored yng Nghymru, gallech gael hyd at £4,500* i'ch helpu gyda'ch costau byw?

Mwy o wybodaeth

*Mae rheolau cymhwysedd yn berthnasol ar gyfer cymorth ariannol.