Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

7 Faint mae’n gostio i fenthyca arian?

Pan fydd rhywun yn benthyca arian, mae'r swm y mae'n rhaid iddynt ei ad-dalu i roddwr y benthyciad yn cynnwys tair elfen.

1. Y swm a fenthyciwyd yn wreiddiol. Cyfeirir at hyn yn aml fel y prif swm, neu weithiau’r swm cyfalaf. Fel arfer, byddwch yn talu hwn yn ôl fesul cam (bob mis fel arfer) dros oes y benthyciad, ond mae'n bosibl ei dalu'n ôl yn ei gyfanrwydd ar y diwedd a thalu'r llog yn unig yn fisol - ond dim ond ar forgeisi y mae hyn yn digwydd mewn gwirionedd, a hyd yn oed wedyn, mae angen i chi fodloni meini prawf llymach er mwyn cael y morgeisi 'llog yn unig' hyn nag ar gyfer morgais safonol.

2. Y llog y mae’n rhaid ei dalu ar y ddyled. Dyma’r pris allweddol yr ydych chi’n ei dalu er mwyn gallu benthyg arian, a sut y mae banciau ac ati yn gwneud eu harian. Fel arfer fe’i mynegir fel canran y flwyddyn – er enghraifft 7% y flwyddyn.

Yn syml, ar sail dyled barhaus o £10,000, mae’r gost o 7% yn £700 y flwyddyn. Fodd bynnag, y realiti yw y bydd yn llai dros y flwyddyn gan eich bod yn debygol o fod yn ad-dalu rhywfaint o’r benthyciad. Mae cyfrifo’r union gostau llog yn gymhleth hyd yn oed i’r mathemategydd mwyaf medrus, ac ystyried bod y ddyled yn lleihau’n gyson a bod y rhan fwyaf o fenthyciadau’n codi llog yn dyddiol ar sail y balans y diwrnod hwnnw, ond mae yna sawl cyfrifiannell ar-lein a all helpu.

3. Taliadau. Efallai y bydd taliadau’n gysylltiedig â chodi, cael neu ad-dalu dyled, sy’n gyffredin iawn ar forgeisi. Trafodir y rhain yn fanylach yn nes ymlaen yn y sesiwn hon ac yn Sesiwn 4 ar ddeall morgeisi.

Mae’r ddelwedd yn dangos arwydd % mawr yn eistedd ar saeth. Mae gan y saeth gromlin i fyny tuag at y pwynt. Mae pum bloc solet hefyd wedi’u gosod allan fel histogram. Mae’r eitemau hyn i gyd ar ben dau graff wedi’u llunio ar bapur – un yn graff llinell a’r llall yn histogram.
Ffigur 7 Effeithiau llog ar y cyfanswm sydd ei angen i ad-dalu benthyciad