Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1 Cael morgais: faint ydw i’n gallu ei fenthyca?

Cyn gwneud cynnig i brynu eiddo, mae angen i chi wybod faint bydd eich benthyciwr yn fodlon ei fenthyca i chi ac ar ba delerau. Mae’n gwneud synnwyr i chi o leiaf gael syniad o faint gallwch chi ei fenthyca cyn mynd ati i wneud cynnig. Ar ôl hynny, gallwch chi ddychwelyd gyda manylion yr eiddo penodol rydych chi eisiau ei brynu.

Llun o dŷ gydag arwydd ‘Ar Werth’ y tu allan iddo.
Ffigur 1 A fydd eich morgais yn ddigon i brynu’r eiddo dan sylw?

Cyn cynnig morgais, bydd eich benthyciwr yn:

  • Gwirio eich adroddiad credyd i wneud yn siŵr eich bod yn ariannol ddeniadol. Mae gan fenthycwyr ddiddordeb mawr yn eich hanes o ran talu unrhyw arian rydych chi wedi’i fenthyca’n flaenorol.
  • Asesu faint o arian maen nhw (nid chi!) yn meddwl y gallwch chi fforddio ei dalu’n ôl (y ‘prawf fforddiadwyedd’). Mae hyn yn cynnwys y benthyciwr yn adolygu eich incwm a’ch gwariant – gan ategu hyn drwy astudio eich datganiadau banc ar gyfer y tri mis diwethaf fel arfer. O ran eich gwariant, bydd yn canolbwyntio ar eich gwariant rheolaidd a chytundebol (ee, contract ffôn symudol, ffioedd ysgol ac yswiriant cartref) yn hytrach na gwariant unigol yn ôl disgresiwn. Bydd hefyd yn ystyried nifer y dibynyddion sydd gennych chi. Gallai hyn gynnwys eich plant (yn ddibynnol ar eu hoedran) ond hefyd eich rhieni neu’ch partner, yn ddibynnol ar eu hamgylchiadau. Y drefn arferol ar hyn o bryd yw y bydd cyfyngiad ar faint y cewch chi ei fenthyca – sef tua phedair gwaith eich cyflog.
  • Cynnal prawf straen ar eich cyllid. Mae hyn yn cynnwys edrych ar y ffactorau a allai newid y swm rydych chi’n ei wario bob mis, a gweld a yw’ch cyllideb yn gallu delio â'r gyfradd llog ar eich morgais yn codi’n sydyn (fel arfer drwy asesu effaith tri phwynt canran o gynnydd yn y gyfradd morgais rydych chi’n ei thalu).

Felly, cyn siarad â’ch benthyciwr, mae rhai pethau y dylech chi eu gwneud i helpu i gyflwyno eich proffil ariannol gorau:

  • Gwirio eich adroddiadau credyd yn y tair asiantaeth sgorio credyd er mwyn gwneud yn siŵr bod dim gwybodaeth anghywir. Mae dolen i’ch helpu chi i wneud hyn i'w gweld ar ddiwedd y sesiwn.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi manylion eich incwm chi ac incwm eich partner (os ydych chi’n cael morgais ar y cyd).
  • Adolygwch eich gwariant – o leiaf dri mis cyn mynd at eich benthyciwr yn ddelfrydol – ac, efallai, rhowch y gorau i wario’n rheolaidd ar rai pethau nad ydynt yn hanfodol (er enghraifft, aelodaeth campfa os nad ydych chi’n ei defnyddio). Bydd hyn yn gwella canlyniad y prawf fforddiadwyedd.
  • Ystyriwch ddefnyddio cynghorydd morgeisi (a elwir hefyd yn frocer) i’ch helpu chi gyda’ch cais am y morgais o’ch dewis. Gall arbenigedd y cynghorydd helpu – yn enwedig os ydych chi’n brynwr tro cyntaf. Wedi dweud hynny, gwnewch yn siŵr bod ei gyngor ar forgeisi yn cwmpasu’r farchnad forgeisi gyfan (yn hytrach na'r cynnyrch a gynigir gan ambell fenthyciwr yn unig). Edrychwch hefyd ar y ffi sy’n daladwy – tua £500 fel arfer, neu ganran fach (llai nag 1%) o’r swm rydych chi eisiau ei fenthyca.
  • Byddwch yn ymwybodol bod statws eich swydd yn dylanwadu ar benderfyniad benthyciwr. Mae rhai benthycwyr yn gyndyn o fenthyca arian i bobl sydd ar gontract dros dro neu mewn cyfnod prawf ar gyfer contract parhaol. Bydd brocer morgeisi yn gallu’ch helpu chi i ddod o hyd i fenthycwyr sy’n fwy parod i fenthyca arian yn yr amgylchiadau hyn.
  • Meddyliwch am gyfnod y morgais. Fel arfer, y tro cyntaf mae pobl yn cael morgais, maen nhw’n pennu cyfnod ad-dalu o 25 mlynedd. Ond fe allwch chi fenthyca am gyfnod hirach. Bydd hyn yn golygu bod eich ad-daliadau yn is, gan eich bod yn talu llai bob blwyddyn, ond bydd y cyfanswm rydych chi’n ei dalu mewn llog yn uwch, oherwydd rydych chi’n benthyca am gyfnod llawer hirach. Fodd bynnag, cofiwch y gall cyfnod hirach ymestyn i mewn i’ch ymddeoliad, sy’n golygu ei bod yn debygol y bydd gennych chi lai o incwm i fforddio’r ad-daliadau morgais bryd hynny.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o'r costau cysylltiedig â chwblhau pryniant eich eiddo – fel costau cyfreithiol a chostau symud, yn ogystal ag unrhyw ffioedd sy’n daladwy i sicrhau morgais. (Mae hyn yn cael ei drafod mewn mwy o fanylder yn nes ymlaen yn y sesiwn).

Sylwch fod yr amgylchedd economaidd gwanhau yn 2022 yn gwneud benthycwyr morgeisi yn fwy gofalus ynghylch faint y maent yn barod i'w roi ar fenthyg i brynwyr eiddo. Mae hyn yn ei gwneud yn bwysicach fyth i wneud y gwaith paratoi hwn.

Y cam nesaf yw cyflwyno manylion yr eiddo rydych chi eisiau ei brynu i’r benthyciwr o’ch dewis (naill ai’n uniongyrchol neu drwy frocer).