Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4 Rheoli eich morgais: gordalu

Roedd yr adran flaenorol yn trafod sut gallwch chi ad-dalu eich morgais yn gyflymach drwy ddefnyddio cynhyrchion morgais ‘gwrthbwyso’ a ‘hyblyg’. Nodwyd hefyd sut mae morgeisi confensiynol yn gallu cynnig yr opsiwn o wneud gordaliadau, gan leihau’r balans sydd ar ôl i’w dalu.

Montage o arian mân ac arian papur, cyfrifiannell a theganau tai bach plastig yn eistedd ar bentyrrau o arian mân.
Ffigur 4 A ddylwn i wneud gordaliadau?

Mae’r fathemateg y tu ôl i hyn yn syml os oes gennych chi incwm dros ben bob mis – sef cymharu cyfradd y morgais a'r gyfradd llog y gallech chi ei chael pe baech chi, yn hytrach na gordalu, yn rhoi’r arian mewn cyfrif cynilo. Os yw cyfradd y morgais yn uwch na'r hyn y gallech chi ei gael ar gynnyrch cynilo, mae’r dewis yn ymddangos yn un hawdd: ad-dalu’r morgais yn hytrach na chynilo’r arian.

Fodd bynnag, mae ambell beth mae angen i chi fod yn ymwybodol ohono cyn dewis gordalu:

  • A yw contract eich morgais yn caniatáu gordaliadau ac, os felly, faint? Mae 10% o’r balans bob blwyddyn yn ffigur safonol, ond os byddwch chi’n mynd y tu hwnt i unrhyw drothwyon gordalu, gallech chi wynebu ffioedd ad-dalu, yn enwedig os oes gennych chi forgais cyfradd sefydlog neu ddisgownt.
  • Os ydych chi’n defnyddio eich cynilion i wneud gordaliad, edrychwch i weld a oes unrhyw ffioedd am dynnu arian o’ch cyfrif.
  • Oes gennych chi ddyledion eraill (ee, benthyciadau gan y banc) gyda chyfradd llog uwch na’r gyfradd morgais rydych chi’n ei thalu. Os felly, gallai defnyddio eich cynilion i leihau neu ad-dalu’r dyledion hyn yn llwyr wneud mwy o synnwyr na lleihau balans eich morgais.

Gweithgaredd 4 A ddylwn i ordalu fy morgais?

Timing: Dylech ganiatáu tua 5 munud

Dychmygwch y sefyllfa ganlynol. Mae tair blynedd ar ôl ar eich morgais nes byddwch yn gorffen ei ad-dalu. Mae cyfradd y morgais yn 3.2% y flwyddyn, ond rydych chi’n ennill 1.8% y flwyddyn ar eich cynilion mewn cyfrif ISA cyfradd sefydlog. Os ydych chi’n tynnu arian o’ch cyfrif bond cyn iddo aeddfedu, byddwch chi’n talu ffi gwerth 6 mis o log. Heb edrych ar unrhyw ystyriaethau eraill, a yw’n werth defnyddio arian o’ch cyfrif bond i ordalu eich morgais?

Rhowch eich sylwadau yn y blwch isod a’u cadw i ddatgelu'r drafodaeth.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Discussion

Ydy, mae’n dal yn ddoeth gordalu’r morgais. 1.8% o log yw’r enillion a gollir ar y cyfrif ISA cyfradd sefydlog. Y tâl untro yw 0.9% (= 6 mis, neu hanner, y llog blynyddol o 1.8%). Ond mae modd gwasgaru’r gost hon ar draws y 3 blynedd o gyfnod y morgais sy’n weddill, sy’n golygu ei fod yn 0.3% (0.9% ÷ 3) y flwyddyn. Mae hynny’n dod i gyfanswm o 2.1% (1.8% + 0.3%) o’r enillion a gollir fesul blwyddyn yn erbyn y 3.2% o log a fydd yn cael ei arbed drwy leihau balans y morgais.

Sylwch fod y cyfrifiadau hyn yn anwybyddu’r symiau bach iawn o log a enillwyd ar y llog blaenorol a dalwyd (gelwir hyn yn ‘adlogi’). Fodd bynnag, nid yw hyn yn effeithio ar y canlyniad, sef bod gordalu’n gwneud synnwyr.

Ond, cofiwch mai ymarfer mathemategol yw hwn, a bod ystyriaethau eraill wedi cael eu hanwybyddu. Yn ddelfrydol, ni fydd gennych chi unrhyw ddyledion eraill, bydd gennych chi gynilion y gallech chi eu defnyddio mewn argyfwng neu pe baech chi’n colli’ch swydd, ac rydych chi wedi gwneud yn siŵr bod eich morgais yn caniatáu gordaliadau.

Er efallai mai defnyddio cynilion i ordalu eich morgais yw’r penderfyniad cywir mewn egwyddor, byddwch yn ofalus. Yn aml, mae’n well gordalu bob mis gydag incwm dros ben (os oes gennych chi beth) yn hytrach na defnyddio eich cynilion i dalu eich morgais, oherwydd mae’n debygol na fyddwch chi’n gallu cael yr arian yn ôl os bydd ei angen arnoch yn y dyfodol.

Hyd yn oed oes yw’r fathemateg yn awgrymu y dylech chi ordalu eich morgais, a ddylech chi ddefnyddio eich holl gynilion i leihau balans eich morgais?

Rhowch eich sylwadau yn y blwch isod a’u cadw i ddatgelu'r drafodaeth.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Discussion

Ni fyddai hyn yn ddoeth oni bai fod gan eich morgais nodwedd benthyca’n ôl y mae’n hawdd cael mynediad ati. Dylai pawb gadw rhywfaint o gynilion wrth gefn ar gyfer ansicrwydd ac argyfyngau bywyd. Un argymhelliad yw y dylai’r cynilion hyn fod yn gyfwerth â’r hyn y byddech chi’n ei wario dros chwe mis.

Os ydych chi wedi defnyddio eich holl gynilion, efallai y bydd rhaid i chi fenthyca arian ar fyr rybudd os bydd rhywbeth annisgwyl yn digwydd – fel os yw’ch car yn torri i lawr neu os oes angen peiriant golchi newydd arnoch chi.

Mae’r adran nesaf yn edrych ar bryd a pham mae’n gwneud synnwyr newid eich cynnyrch morgais, ac efallai eich darparwr morgais hefyd.