Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

8 Crynodeb o Sesiwn 4

Mae llawer o fanylion wedi cael eu trin a’u trafod yn y sesiwn hon. Bydd yr wybodaeth a’r sgiliau a ddarperir yn eich helpu chi i wneud penderfyniadau da pan fyddwch yn dewis ac yn rheoli eich morgais.

Graff llinell yw’r ddelwedd, sy’n dangos gwerth real prisiau tai ar gyfartaledd rhwng 1983 a 2021. Mae’r graff yn dangos bod prisiau real tai ar gyfartaledd yn codi rhwng 1983 a 1989, yn gostwng tan 1995, yn aros yn gyson tan 1999, wedyn yn codi’n sylweddol tan 2008, gan gyrraedd tua £280,000. Ar ôl 2009, mae prisiau real tai ar gyfartaledd yn gostwng ac wedyn yn aros rhwng £210,000 a £254,000 tan 2021. Mae’r graff hefyd yn dangos llinell duedd syth ar gyfer y cyfnod cyfan rhwng 1983 a 2021, sydd â graddiant am i fyny.
Ffigur 9 Prisiau tai cyfartalog yn y DU (mewn termau real) 1983–2021. Ffynhonnell: Cymdeithas Adeiladu Nationwide (2022).

I grynhoi, dyma bum argymhelliad allweddol:

  • Chwiliwch am y cynnig gorau bob amser.
  • Cadwch lygad ar y farchnad a monitro sut mae cyfraddau morgais yn symud.
  • Byddwch yn barod i ailforgeisio – ac nid unwaith yn unig!
  • Peidiwch â chael eich dal gyda chynnyrch Cyfradd Amrywiadau Sefydlog. Mae cynhyrchion cyfradd amrywiadwy eraill (tracwyr a morgeisi disgownt) fel arfer yn well. Mae cynnyrch Cyfradd Amrywiadwy Sefydlog yr un fath â thariffau safonol cwmnïau ynni – maen nhw’n ddrud ac wedi’u dylunio i ddal pobl nad ydynt yn newid!
  • Peidiwch â theimlo bod rhaid i chi aros gyda’ch darparwr morgais cyntaf dim ond oherwydd ei fod wedi rhoi benthyg arian i chi pan oedd angen morgais arnoch chi yn y lle cyntaf – perthynas fasnachol yw hi, nid priodas!

Y newyddion da yw bod prisiau tai wedi tueddu i gynyddu o ran arian parod ac mewn termau real dros sawl degawd (gweler y graff uchod) – felly mae eich morgais yn rhoi cartref i chi, ac mae’n fuddsoddiad cadarn hefyd!

Darllen pellach

I gael gwybod mwy am rai o'r materion a drafodir yn y cwrs hwn, gallwch chi ddilyn y dolenni yma i wefan MoneySavingExpert:

Mae’r farchnad dai yn rhan bwysig o’r economi. Gall deall sut mae’n gweithio eich helpu chi i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth am eich arian. I gael mwy o wybodaeth, mae MoneySavingExpert yn argymell eich bod yn mynd i wefan Banc Gwybodaeth Banc Lloegr, sy’n cynnwys adrannau am y canlynol:

Ewch i Sesiwn 5: Cynilo a buddsoddi.