1 Pam ddylen ni gynilo ar gyfer y dyfodol?
Yn llyfr Charles Dickens David Copperfield, dywedodd Mr Micawber mai incwm blynyddol o £20, ynghyd â gwariant o £19, 19 swllt a chwe cheiniog (gan adael chwe cheiliog ar ôl i’w cynilo) oedd hapusrwydd go iawn. Ar y llaw arall, canlyniad gwario £20 a chwe cheiniog (a gorfod benthyca’r gwahaniaeth) fyddai trallod. Gall cysylltu hapusrwydd neu drallod â chael incwm dros ben neu wariant dros ben fod braidd yn or-syml, ond i lawer o bobl mae bod ag incwm dros ben, ac felly’r gallu i roi arian o’r neilltu ar gyfer y dyfodol, wir yn gallu helpu i wneud bywyd yn haws ac yn fwy boddhaus.
Wrth feddwl am y rhesymau pam mae pobl yn cynilo, rydyn ni mewn gwirionedd yn meddwl pam eu bod yn gohirio defnyddio yn hytrach na defnyddio nawr.
Gall hyn fod ar gyfer nifer o ddibenion penodol neu amhenodol.
Pryniannau yn y dyfodol – hysbys ac anhysbys
Os ydych chi’n gwybod beth rydych chi ei eisiau yn y dyfodol, gallwch roi swm penodol o’r neilltu bob mis (neu bob wythnos), ar sail cyfrifiad o faint sydd ei angen arnoch ar gyfer nod penodol – fel prynu eich cartref cyntaf, car neu hyd yn oed gynilo ar gyfer y Nadolig. Gallai fod yn fater syml o roi arian o’r neilltu ar gyfer eitemau neu wasanaethau nad ydych yn gwybod eto eich bod eu hangen neu eu heisiau.
Rhwyd ddiogelwch
Un rheswm pwysig dros gynilo yw’r ‘cymhelliant rhagofal’ – a elwir yn fwy cyffredin efallai’n ‘gynilo at ddiwrnod glawog’. Mae hyn yn golygu cronni arian wrth gefn i ddarparu ar gyfer digwyddiadau a biliau annisgwyl, a all roi diogelwch emosiynol ac ymarferol i chi oherwydd eich bod yn gwybod bod gennych arian wrth law os bydd ei wir angen arnoch.
Cefnogi newid mewn ffordd o fyw
Gallai cael digon o gynilion eich galluogi i adael swydd neu gymryd seibiant am ychydig fisoedd. Gallai hefyd eich galluogi i wneud neu brynu pethau yr ydych eu heisiau, neu fanteisio ar gyfleoedd sy’n codi (megis gallu talu am addysg neu ddechrau busnes).
Cynllunio ar gyfer cyfnod diweddarach mewn bywyd
Un o’r dibenion pwysicaf ar gyfer cynilo yw helpu i ddarparu arian ar gyfer ymddeol. Rheswm arall posibl fyddai neilltuo arian i’w drosglwyddo i’ch dibynyddion pan fyddwch chi’n marw.
Gan fod pob un ohonom yn wahanol, efallai fod gennych gymhellion eraill na chyfeirir atynt yma.
Mae’r rhesymau uchod i gyd yn tanlinellu nod cyffredinol pwysig bod â chynilion – i sicrhau nad ydych yn gorwneud pethau nawr gan olygu eich bod yn brin o arian ar gyfer gwariant pwysig yn y dyfodol, ac i greu sicrwydd ariannol ac annibyniaeth.
Gweithgaredd 1 Eich rhesymau dros gynilo ar gyfer y dyfodol
Pa gynlluniau sydd gennych ar gyfer yr arian rydych chi wedi’i gynilo neu ei fuddsoddi ar hyn o bryd? Dros ba gyfnod ydych chi’n disgwyl defnyddio’r arian hwn?
Os nad oes gennych unrhyw gynilion ar hyn o bryd, ystyriwch yr amcanion a fyddai gennych pe baech yn dechrau eu cronni.
Answer
Er y bydd eich ymateb yn adlewyrchu eich amgylchiadau personol, mae sawl diben i’r arbedion fel arfer – o rwyd ddiogelwch i ddelio ag argyfyngau ariannol ar unwaith, i gronfa o arian ar gyfer tretio’ch hun neu hanfodion yn y dyfodol fel car newydd neu fordaith o gwmpas y byd, i storfa o gyfoeth i’ch teulu elwa ohoni yn y dyfodol. Mae angen i’r defnydd tymor byr o gynilion yn erbyn defnydd yn y tymor hir gael eu hadlewyrchu yn lle rydych chi’n cynilo neu’n buddsoddi eich arian – yn ddelfrydol mae angen i rai fod ar gael yn hawdd, a gellir rhoi rhai o’r neilltu am flynyddoedd lawer.