Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

10 Buddsoddiadau - ochr fwy peryglus cynilo (ond un gwerth chweil o bosibl)

Hyd yn hyn yr ydym wedi canolbwyntio ar gyfrifon cynilo lle nad yw’r arian a adneuwyd mewn perygl oni bai fod y sefydliad yn methu, a hyd yn oed wedyn mae gwarchodaeth deilwng, fel y nodwyd yn gynharach.

Graff llinell yw’r ddelwedd sy’n dangos y symudiad yn y mynegai FTSE-100 o’i lansio yn 1984 i 2022. Dros y cyfnod hwnnw cododd y mynegai o 1000 i dros 7500. Er bod y duedd wedi bod yn amlwg ar i fyny, bu rhai gostyngiadau sylweddol yn y mynegai yn ystod y blynyddoedd hyn – yn fwyaf arwyddocaol yn y 2000au cynnar ac eto ar ddiwedd y 2000au. Mae’r cwymp yn y 2000au cynnar wedi deillio o fyrstio’r swigen ‘dotcom’ (yr hapfasnachu mewn cwmnïau cysylltiedig â’r rhyngrwyd). Mae’r cwymp yn niwedd y 2000au wedi deillio o’r argyfwng bancio byd-eang. Mae’r gostyngiad sydyn yn nechrau 2020 yn ymwneud ag effaith pandemig Covid-19.
Ffigur 11 Mynegai cyfranddaliadau can cwmni’r FTSE 1984-2022

Gyda buddsoddiadau (a all gynnwys cyfranddaliadau, bondiau neu gronfeydd buddsoddi sy’n gallu dal y mathau hyn o asedau), gall y buddsoddiad ei hun ostwng neu godi mewn gwerth sy’n ychwanegu risg sylweddol, ond gall hefyd arwain at fuddion llawer mwy. Cofiwch hefyd, er nad ydym yn mynd i ormod o fanylion am y ffioedd ar gyfer buddsoddi, bod rhywbeth i’w dalu fel arfer – boed hynny i frocer i brynu cyfranddaliadau, rheolwr cronfa i reoli eich arian neu’r llywodraeth mewn treth. Felly holwch cyn buddsoddi.

Yn nes ymlaen byddwn yn archwilio cronfeydd buddsoddi, sy’n cynrychioli’r ffordd arferol y mae buddsoddwyr personol yn buddsoddi mewn cyfranddaliadau ac asedau eraill fel nwyddau ac eiddo. Gwneir hyn drwy gyfuno llawer o arian buddsoddwyr mewn cronfa anferth lle gall rheolwr fuddsoddi’r arian hwnnw ym mhob math o wahanol fathau o fuddsoddiadau – felly does dim angen i chi fod yn rhy weithredol a gadael i rywun arall wneud y gwaith caled i chi (am ffi, wrth gwrs).

Efallai eich bod yn meddwl nad yw buddsoddiadau fel hyn ar eich cyfer chi, ond os oes gennych chi gynilion pensiwn, yna pa un a ydych yn ei wybod ai peidio, rydych bron yn sicr yn fuddsoddwr gan y bydd eich arian mewn un neu nifer o gronfeydd. Bydd yr adrannau nesaf yn eich helpu i ddysgu mwy am y ffordd y mae eich arian yn cael ei fuddsoddi.

Er mwyn deall natur y cronfeydd hyn, gadewch i ni edrych yn gyntaf ar sut mae’r prif fathau o fuddsoddiadau’n gweithio rhag ofn eich bod am fuddsoddi’n uniongyrchol ynddynt, neu os ydych chi ond eisiau cael gwybodaeth er mwyn deall mwy am flociau adeiladu’r cronfeydd.