Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

13 Deall nwyddau

Categori arall o fuddsoddiadau yw nwyddau. Dyma lle mae’r buddsoddiad yn cael ei wneud mewn asedau fel olew, aur a metelau eraill neu hyd yn oed gynhyrchion amaethyddol.

Graff llinell yw’r ddelwedd sy’n dangos pris aur mewn punnoedd, sterling rhwng 2002 a 2022. Dros y cyfnod hwn mae'r pris wedi codi'n sylweddol - o ychydig dros £200 yr owns i bron i £1,500 yr owns. Roedd y cynnydd hwn yn y pris yn arbennig o amlwg o 2006. Fodd bynnag, nid oedd cyfeiriad y pris i fyny drwyddi draw gyda gostyngiadau sydyn yn y pris yng nghanol y 2010au ac yn 2020.
Ffigur 14 Gall prisiau nwyddau fod yn gyfnewidiol

Yn gyffredinol, mae dau brif atyniad i’r buddsoddiadau hyn:

  • Mae prisiau nwyddau’n tueddu i godi yn ystod cyfnodau o chwyddiant prisiau. O ganlyniad, maent yn cynnig ‘gwarchodaeth’ yn erbyn y risg i chwyddiant erydu gwir werth eich buddsoddiadau.
  • Mae prisiau nwyddau hefyd yn aml yn symud i gyfeiriad cwbl groes i ddosbarthiadau eraill o asedau fel cyfranddaliadau ac eiddo. Yn wir, yn ystod cyfnodau o wendid mewn marchnadoedd ecwiti, mae buddsoddwyr yn dueddol o symud i aur. O ganlyniad, gall buddsoddi mewn nwyddau fod yn ffordd effeithiol o gydbwyso’r risgiau ar bortffolio sydd hefyd yn cynnwys asedau fel cyfranddaliadau ac eiddo.

Yr ochr arall i’r geiniog, fodd bynnag, yw y gall prisiau nwyddau fod yn gyfnewidiol a’u bod yn sicr mewn perygl o gwympo sydyn o bryd i’w gilydd. Gallwch weld hyn yn y siart uchod sy’n dangos prisiau aur rhwng 2002 a 2022. Mewn rhai ffyrdd, mae gan fuddsoddiadau o’r fath yr un risg â buddsoddi mewn cyfran unigol yn hytrach na buddsoddi mewn portffolio cytbwys o gyfranddaliadau.

Sut y gellir buddsoddi mewn nwyddau? Mae tri opsiwn ar gael ar gyfer y buddsoddwr cyffredin.

Yn gyntaf, lle bo’n ymarferol, gellir gwneud y buddsoddiadau ar ffurf ffisegol gyda’r nwydd ei hun yn cael ei brynu a’i storio. Mae hyn yn ymarferol gyda nwyddau fel aur – fel y tystia’r fasnach mewn darnau arian aur. Fodd bynnag, mae angen rhoi ystyriaeth i yswiriant, gan ystyried y risg o ladrad neu ddifrod. Ar ben hynny, ar gyfer y buddsoddwr cyffredin, bydd pentyrru cyflenwadau o nwyddau megis olew neu rawn yn anymarferol.

Ail opsiwn yw prynu cyfranddaliadau mewn cwmnïau y mae eu perfformiad ariannol yn ymwneud yn bennaf â’r nwydd yr ydych am fuddsoddi ynddo. Felly, mae cyfranddaliadau cwmnïau mwyngloddio yn ddefnyddiol os ydych am fuddsoddi mewn metelau diffiniedig; cyfranddaliadau cwmnïau olew os ydych am fuddsoddi mewn olew. Er bod hyn yn ffordd syml o ddod i gysylltiad â nwyddau, mae risgiau ynghlwm wrth y dull buddsoddi hwn. Mewn llawer o achosion, mae cysylltiad llac rhwng perfformiad ariannol cwmnïau o’r fath a’r symudiadau ym mhrisiau eu cyfranddaliadau a’r nwyddau sy’n gysylltiedig â hwy. Mae perfformiad cwmnïau olew mawr, er enghraifft, yn gysylltiedig ag amrywiaeth o ffactorau – megis trethu petrol – nad ydynt yn gysylltiedig â phris olew.

Y trydydd opsiwn yw buddsoddi mewn cronfeydd sy’n olrhain pris nwyddau penodol neu fasged benodol o nwyddau. Gellir gwneud hyn drwy roi arian mewn cronfeydd cyfnewid a fasnachir (ETFs). Mae'r ffordd hon o fuddsoddi mewn nwyddau yn eich galluogi i addasu a rheoli risg eich cysylltiad â nwyddau.