Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

14 Deall buddsoddi mewn eiddo

Ers blynyddoedd lawer, mae eiddo wedi dod yn ddewis amgen difrifol i fathau eraill o fuddsoddiadau.

Mae’r ffigur yn llun o deras o dai gydag arwydd asiant tai y tu allan i un ohonynt. Ar waelod yr arwydd, mae’r gair ‘LET’ wedi’i binio.
Ffigur 15 Mae prynu-i-osod yn ffordd boblogaidd o fuddsoddi mewn eiddo

I’r rhan fwyaf o bobl, y buddsoddiad mwyaf sydd ganddynt – ac eithrio’r buddsoddiad a ddelir yn eu cronfa bensiwn – yw eu cartref eu hunain. Gwiriwch hyn drosoch eich hun os ydych chi'n berchen ar eich cartref – gweithiwch allan y gwahaniaeth rhwng gwerth eich cartref ar y farchnad a'r morgais sy'n weddill sydd gennych arno. Gelwir y gwahaniaeth hwn yn ‘ecwiti’ sydd gennych yn eich eiddo, a gallai fod yn swm mawr iawn i’r rheini sydd wedi talu eu morgais yn llwyr neu sy’n agos at wneud hynny.

Efallai y gwelwch eich prif gartref fel buddsoddiad, yn ogystal ag fel lle i fyw ynddo, wrth i chi obeithio y bydd yn cynyddu o ran ei werth. Neu, gallech fuddsoddi mewn ail gartref (neu drydydd, pedwerydd ayb), ond cofiwch os ydych yn gwerthu unrhyw beth ar wahân i’ch prif gartref, y bydd yn rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf (CGT) ar unrhyw elw a wneir. Ac wrth brynu unrhyw beth ar wahân i’ch prif gartref, byddwch yn talu treth stamp ychwanegol hefyd.

Mae sawl ffordd y gall buddsoddi mewn eiddo fod yn broffidiol.

Gallech brynu cartrefi mewn ardal sydd ‘ar i fyny’ lle mae prisiau eiddo’n codi mwy na’r cyfartaledd; gallech brynu yn is na ‘gwir’ werth y farchnad; neu gallech ychwanegu gwerth at eiddo drwy ganfod, er enghraifft, cartref a esgeuluswyd a fyddai’n addas i’w adnewyddu a, phan fydd wedi’i gwblhau, ei werthu ar elw goruwch cyfanswm cost y pryniant, y llog a’r adnewyddu. Eto i gyd, mae’n bosibl y gallai gwerth eich eiddo ostwng am sawl rheswm gwahanol.

Gallech hefyd wneud arian dim ond o'r rhent a gynhyrchir o eiddo, er bod llawer o landlordiaid yn defnyddio'r incwm hwnnw i wneud taliadau morgais, sicrhau bod yr eiddo’n cael ei gynnal i safon uchel ac am gostau ychwanegol. Felly, maent yn dibynnu ar dwf mewn prisiau tai fel y ffordd i gynyddu gwerth eu buddsoddiad. Y risg yma, fodd bynnag, yw na allwch ddod o hyd i denant ac felly efallai y byddwch yn ei chael yn anodd talu unrhyw forgais.

Ffordd arall o fuddsoddi mewn eiddo heb fod yn berchen ar eiddo penodol yn uniongyrchol yw drwy gronfeydd buddsoddi – yn enwedig Cwmnïau Buddsoddi mewn Eiddo Tirol (REICs).