Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

17 Deall cynnyrch cymar-i-gymar

I gwblhau’r adolygiad o gynnyrch buddsoddi, gadewch i ni edrych ar un sydd ond wedi bod o gwmpas ers rhai blynyddoedd – ond sydd wedi dod yn boblogaidd yn gyflym iawn – benthyca cymar-i-gymar. Ond mae hefyd yn faes sydd eto i’w brofi gan ddirwasgiad economaidd difrifol, ac wrth i ni roi’r cwrs hwn at ei gilydd, nid oedd effeithiau ariannol pandemig Covid-19 ond newydd ddechrau taro. Felly, cyn buddsoddi mewn cynnyrch cymar-i-gymar, byddwch yn ofalus iawn.

Active content not displayed. This content requires JavaScript to be enabled.
Ffigur 18 Mae benthyca cymar-i-gymar a benthyca torfol wedi dod i’r amlwg yn ystod y blynyddoedd diwethaf
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Mae’r farchnad hon wedi tyfu oherwydd bod y cynilwyr sydd mewn sefyllfa anodd ac wedi gweld elw ar eu cyfrifon yn disgyn i lefelau isel iawn yn y blynyddoedd diwethaf, ac i lefelau sy’n is na chyfradd chwyddiant prisiau, yn cael eu temtio fwyfwy gan fenthyca gan gymheiriaid (P2P). Fodd bynnag, rhaid pwysleisio mai buddsoddiadau yw’r rhain sy’n dod â risgiau ac nad ydynt yn gynnyrch cynilo – mewn gwirionedd, mae rhai cwmnïau wedi cael eu ceryddu gan yr FCA am wneud iddynt edrych fel cynnyrch cynilo.

Mae’r farchnad gynyddol hon yn golygu bod buddsoddwyr yn cronni eu harian gyda buddsoddwyr eraill i’w fenthyca i unigolion a busnesau. Mae darparwyr P2P yn cynnal yr archwiliadau credyd ar y rheini sy’n benthyca o’r cynlluniau, ac maent yn cymryd cyfran fel elw iddynt. Nid oes banciau na chyfryngwyr ariannol eraill. Mae’r enillion a gynigir drwy fuddsoddi mewn cronfa P2P yn ddeniadol o’u cymharu â’r rhai ar gyfrifon cynilo cyffredin – gan gymryd bod benthycwyr yn talu’r arian yn ôl.

Mae atyniadau'r buddsoddiad amgen hwn wedi gweld y math hwn o fenthyca yn tyfu yn y DU, gyda chyfanswm o £10 biliwn o fenthyciadau heb eu talu yn ôl yn 2019.

Y corff masnach gwreiddiol ar gyfer P2P oedd Peer2Peer Finance Association. Cafodd ei feddiannu gan Innovate Finance yn 2020.

Sylwch fod benthyca gan gymheiriaid yn wahanol i gynnyrch arall y gallech glywed amdano – ‘cyllid torfol’. Mae benthyca gan gymheiriaid yn darparu benthyciadau, tra bo cyllid torfol yn darparu cyllid ecwiti i gwmnïau. Mewn gwirionedd, mae ‘arianwyr torfol’ yn prynu cyfranddaliadau yn y cwmnïau y maent yn rhoi benthyg iddynt.

Byddwch yn ymwybodol o risgiau sylweddol benthyca P2P

Er bod P2P yn cael ei reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA), mae’n cynnwys risgiau y mae angen i fuddsoddwyr fod yn ymwybodol ohonynt. Mae risgiau’n sicr yn bodoli – pam arall y byddai’r elw’n sylweddol uwch na’r enillion ar fuddsoddiadau heb risg megis cynnyrch Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol? Y risg allweddol yw diffygdalu gan y rhai sydd wedi benthyca o gronfeydd P2P – er bod y rhai sy’n rheoli’r cronfeydd yn lliniaru hyn drwy ledaenu’r arian a fuddsoddir ar draws nifer o fenthycwyr. Hyd yn oed os bydd yr arian sy’n cael ei fenthyg yn cael ei adfer yn llwyr gan fenthyciwr sydd wedi diffygdalu, mae’n debygol y bydd yn rhaid aros yn hir i gael yr arian a fuddsoddwyd gennych yn ôl.

Ffactor allweddol arall i’w gofio yw nad yw buddsoddiadau P2P yn dod o dan y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS) ar hyn o bryd, sy’n golygu y gallai buddsoddwyr golli eu holl arian pe bai darparwr P2P yn mynd yn mynd i’r wal.

Un awgrym terfynol cyn buddsoddi yn P2P: edrychwch ar wefan yr FCA i wneud yn siŵr bod y cwmni wedi cofrestru gyda'r rheoleiddiwr.

Gweithgaredd 9 Profi cadernid y farchnad P2P

Timing: Caniatewch tua 5 munud ar gyfer y gweithgaredd hwn

Mae rhai dadansoddwyr yn honni na ellir profi pa mor ddeniadol yw’r farchnad P2P oni fo’r economi’n profi dirywiad economaidd sylweddol. Beth yw’r rheswm am y farn hon?

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Answer

Y risg allweddol i fuddsoddwyr mewn cynnyrch P2P yw bod benthycwyr yn methu ad-dalu. Mewn amodau economaidd da gyda’r economi’n tyfu a chyfraddau llog yn isel, gall y gyfradd diffygdalu fod yn isel iawn, gan roi argraff ffug efallai o berygl y ffordd hon o fuddsoddi. Y prawf eithaf fyddai gweld sut mae’r gyfradd diffygdalu yn newid os yw’r economi mewn trafferthion – ee, dirwasgiad mawr. Dim ond wedyn y bydd gan fuddsoddwyr ddarlun llawnach o'r risgiau y maent yn eu cymryd o ran derbyn enillion llog sy'n uwch o lawer na'r lefel bresennol ar gynnyrch cynilo confensiynol. Adeg ysgrifennu hyn, nid ydym eto’n gwybod beth yw effaith economaidd lawn pandemig Covid-19 – dyma’r prawf eithaf ynghylch a yw buddsoddiadau P2P yn gadarn, ac rydym yn disgwyl y canlyniadau gyda rhywfaint o anesmwythyd.