Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

18 A oes angen cyngor ariannol arnaf wrth ddewis buddsoddiad neu a ddylwn i fynd ati ar fy mhen fy hun?

Rydyn ni newydd fynd â chi drwy sesiwn sy’n cynnwys llawer o gynnyrch cymhleth ac sy’n cynnwys risg. Nid yw’r risg honno’n eu gwneud yn gynnyrch gwael, ond mae’n allweddol cael cyngor da cyn gwneud unrhyw benderfyniad buddsoddi os nad ydych chi’n gwbl sicr eich bod yn gwybod beth yr ydych yn ei wneud.

Mae’r ffigur yn llun o ymgynghorydd ariannol benywaidd sy’n siarad â chleient ifanc sy’n fenyw. Mae’r ddwy ohonynt yn eistedd o amgylch bwrdd ac mae gan y cynghorydd liniadur yn agored o’i blaen.
Ffigur 19 Cael arweiniad gan eich cynghorydd

Cyn inni fynd ymhellach, dylem ychwanegu, wrth sôn am gyngor, ein bod yn sôn am gyngor buddsoddi ac nid am gyngor ar gynilion, oherwydd gall y peryglon o wneud camgymeriad gyda buddsoddiadau fod yn enfawr. Gyda chynilion, mae eich cyfalaf yn ddiogel os yw o fewn terfynau’r FSCS, felly’r unig risg yw peidio â chael y gyfradd llog orau bosibl.

Ar gyfer cynnyrch cynilo arian parod, mae'n hawdd i'r rhan fwyaf o bobl wneud penderfyniadau gan ddefnyddio safleoedd fel safleoedd MSE neu safleoedd cymharu. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud yr ymchwil hwn, oherwydd gallai mynd i’ch banc yn unig olygu eich bod yn cael cyfradd wael.

Ymlaen yn awr at gyngor ar fuddsoddi. Ddylwn i ei gael?

Mantais cael cyngor yw y dylech gael y cynnyrch sy’n diwallu eich anghenion a’ch archwaeth risg, ond nid yw’n ffordd sicr o wneud arian. Dim ond bodau dynol yw cynghorwyr ac nid oes ganddynt belen risial i benderfynu a fydd eich buddsoddiad yn llwyddiannus ai peidio.

I wneud argymhelliad, dylai cynghorwyr ganfod ffeithiau, lle maent yn gofyn am fanylion am eich amgylchiadau, eich nodau, eich gorwelion amser ar gyfer y nodau hyn a’ch gallu i ddioddef colledion ar fuddsoddiadau.

Sylwch fod rhai cynghorwyr yn annibynnol, yn yr ystyr nad ydynt ynghlwm wrth set benodol o gynnyrch buddsoddi. Gall cynghorwyr annibynnol roi arweiniad ar yr ystod lawn o gynnyrch y mae gennych ddiddordeb mewn buddsoddi ynddynt. Mewn cyferbyniad, mae rhai cynghorwyr yn cynnig gwasanaeth 'cyfyngedig’ yn unig, wedi'i gysylltu ag ystod benodol o gynnyrch ac nid y farchnad lawn. Mae’n rhaid i gynghorwyr ddatgelu a ydynt yn ‘gyfyngedig’ ai peidio yn y canllawiau y maent yn eu darparu.

Mae gwahaniaeth amlwg rhwng gwerthu cynnyrch â chyngor a chynnyrch heb gyngor. Mae gwerthiannau heb eu cynghori yn golygu cael eich arwain drwy opsiynau gyda’r penderfyniad ynghylch pa gynnyrch i fuddsoddi ynddo yn cael ei adael i chi.

Mae gwerthiannau â chyngor yn eich cyfeirio at gynnyrch penodol. Os byddwch yn cael cynnyrch anaddas ar ôl iddo gael ei argymell i chi gan gynghorydd, efallai y bydd gennych achos dros honni ei fod wedi cael ei 'gam-werthu' i chi. Nid yw ‘anaddas’ yr un fath â ‘gwneud colledion’: gan fod buddsoddiadau’n beryglus mae rhai pobl yn colli arian hyd yn oed ar ôl gwneud yr hyn a oedd yn swnio’n fuddsoddiad da ar y dechrau.

Os mai ‘na’ yw eich ateb i o leiaf un o’r cwestiynau canlynol, yna mae’n werth ystyried ceisio cyngor ariannol. Os mai ‘na’ yw’r ateb i’r tri chwestiwn, gellir dadlau bod cyngor yn hanfodol.

Os mai ‘ydw’ yw eich ateb i bob un o’r tri chwestiwn, efallai y byddwch yn ystyried y gallwch wneud eich penderfyniadau eich hun a gwneud trafodion heb gyngor gan ddefnyddio darparwr cost isel (ee, llwyfan rhyngrwyd) o’r cynnyrch rydych chi am ei gael.

Dyma’r cwestiynau allweddol i’w gofyn i chi’ch hun:

  1. Ydw i’n fuddsoddwr profiadol?
  2. Alla i fforddio colli o leiaf rhan o’r swm cyfalaf a fuddsoddwyd?
  3. A oes gen i amser i wneud yr ymchwil cyn buddsoddi ac yna monitro’r buddsoddiad ar ôl i mi ei gael?

Ar gyfer cynnyrch pensiwn, gellid dadlau y dylid ceisio cyngor. Ar gyfer pensiynau yn y gweithle, dylai eich cyflogwr naill ai ddarparu cyngor neu fynediad at gyngor am y cynllun(iau) sydd ar gael a'u costau i chi. Ar gyfer pensiwn preifat, mae'n ddoeth gofyn am gyngor hyd yn oed os ydych chi'n ystyried eich hun yn wybodus am fuddsoddiadau. Gall canlyniadau buddsoddi mewn cynnyrch pensiwn amhriodol fod yn drychinebus yn ariannol. Mae’r rheolau newydd ar fynediad at gronfeydd pensiwn, a ddaeth i rym yn 2015 ac yr ydym yn edrych arnynt yn Sesiwn 6, yn ei gwneud yn bwysig gwybod beth yr ydych yn ei wneud, nid yn unig wrth ymrwymo i gynnyrch pensiwn ond hefyd wrth gael gafael ar yr arian y mae’n ei gynhyrchu wrth i chi symud tuag at ymddeol ac wedi i chi ymddeol.

Faint o dâl fydd yn cael ei godi arnaf am gyngor?

Yn anffodus, nid oes dewislen o ffioedd y gallwn eu dangos i chi, gan y gall hyn fod mor gymhleth â’r buddsoddiadau eu hunain. I rai, gall y gost fod yn fach iawn, i eraill gall gostio cannoedd neu hyd yn oed filoedd o bunnau dros flynyddoedd lawer.

Rhaid i gynghorwyr nodi’n benodol y ffioedd a godir am y cyngor a ddarperir. Mae'r ffioedd hyn yn amrywio o gynghorydd i gynghorydd, felly peidiwch â tharo golwg sydyn arnynt yn unig, edrychwch ar y ffioedd yn ofalus a gweld sut maent yn cymharu â ffioedd cynghorwyr eraill.

Os ydych chi’n ceisio cyngor ariannol cyffredinol neu gyngor mewn perthynas â chynnyrch penodol, bydd cynghorwyr fel arfer yn codi ffi ac yn gorfod rhoi gwybod i chi am y ffioedd y maent yn eu codi ymlaen llaw. Efallai y bydd rhai cynghorwyr yn barod i ddarparu ymgynghoriad cychwynnol yn rhad ac am ddim – felly beth am ofyn a ydynt yn gwneud hyn wrth drefnu apwyntiad.

Cyn 2013, roedd cynghorwyr yn aml yn ennill eu hincwm drwy gael comisiwn gan y darparwyr cynnyrch a oedd wedyn yn cael ei dynnu o fuddsoddiad cychwynnol neu barhaus cwsmeriaid. Mae’r arfer hwn bellach wedi cael ei atal ar bensiynau a buddsoddiadau er mwyn sicrhau tryloywder llwyr ynghylch y ffioedd a godir.

Nodwch y gwahaniaeth rhwng y ffioedd a godir gan gynghorwyr a’r taliadau rheoli parhaus a godir gan ddarparwyr cynnyrch, yn enwedig pan fydd y buddsoddiadau’n cael eu ‘rheoli’ (sy’n derbyn gofal gan reolwyr cronfeydd) yn hytrach na chael eu gosod yn oddefol (ac yn cael eu gadael heb eu rheoli) drwy gydol oes y buddsoddiad.

Ble ydw i’n mynd i ddod o hyd i gynghorydd os oes angen un arnaf?

Efallai y byddwch yn dod o hyd i gynghorydd da ar lafar neu ar-lein. Ond byddwch yn ofalus bob amser nad ydych yn cael eich llywio tuag at y cynnyrch sy’n cael ei gynnig gan sefydliad y mae’r cynghorydd yn gysylltiedig ag ef neu’n gweithio iddo yn unig.

Mae dwy ffynhonnell yn arbennig o ddefnyddiol o ran dod o hyd i gynghorwyr a chael cyngor ariannol.

Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau yn darparu canllawiau ar ddefnyddio cynghorwyr ariannol: Archwilio’u canllawiau [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .

Hefyd, mae unbiased.co.uk yn darparu rhestr o gynghorwyr ariannol awdurdodedig. Gallwch hefyd wneud yn siŵr bod y cynghorydd yn cael ei reoleiddio drwy drych ar eu cofnod yng nghofrestr yr FCA.

Rydych chi bron ar ddiwedd y sesiwn nawr. Nesaf, mae’n amser am y cwis diwedd sesiwn cyn i’r sesiwn gael ei chwblhau.