Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4 Yr archfarchnad cynilion: A ddylech chi gael ISA?

Wrth roi arian mewn cynilion safonol mae gennych nifer o ddewisiadau i’w gwneud, a nodwyd llawer ohonynt yn yr adran flaenorol. Un dewis arall yw a ddylid cynilo mewn cyfrif cynilo arferol neu ddefnyddio Cyfrif Cynilo Unigol (ISA), arian parod, sydd ar gael i unrhyw un sy’n 16 oed neu’n hŷn.

Mae’r ddelwedd yn llun sy’n cael ei hawlio gan y llythrennau ‘ISA’. O gwmpas y llythrennau hyn, mae lluniau cartŵn o ddyn, menyw sy’n defnyddio gliniadur a dyn ifanc sy’n defnyddio ffôn symudol.
Ffigur 5 Cyflwynwyd ISAs yn 1999

Mae ISAs arian parod fel cyfrifon cynilo safonol ond nid oes treth i’w thalu ar y llog. Mae ISAs arian parod yn wahanol i ISAs Stociau a Chyfranddaliadau sy’n ffordd o fuddsoddi mewn cyfranddaliadau cwmni a gwarannau eraill. Byddwn yn edrych ar ISAs Stociau a Chyfranddaliadau yn nes ymlaen yn y sesiwn hon.

Bob blwyddyn dreth, mae'r llywodraeth yn gosod terfyn blynyddol ar faint o gynilion newydd y gellir eu rhoi mewn cynnyrch ISA. Yn 2022/23 roedd hyn yn £20,000.

Sylwch nad yw’r dewis rhwng cynilion safonol ac ISA arian parod yn ddewis hawdd iawn ei wneud fel ag yr oedd unwaith. Tan 2016 yr ISA arian parod oedd yr enillydd amlwg oherwydd ei statws di-dreth.

Ond ers hynny, mae’r lwfans cynilion personol wedi cael ei gyflwyno (a eglurir yn ddiweddarach yn y sesiwn hon) sy’n golygu nad yw’r mwyafrif helaeth o bobl yn talu treth ar eu cyfrifon arferol beth bynnag, felly mewn llawer o achosion mae’r dewis yn dibynnu ar gael y gyfradd orau wrth edrych ar gynilion arferol ac ISAs arian parod. Cofiwch y bydd ISAs yn dal eu statws di-dreth am gyfnod amhenodol (oni bai fod y rheolau’n newid) felly efallai y byddant yn dal i ennill yn y tymor hir, oherwydd efallai y byddwch yn talu treth os bydd eich cynilion arferol yn cronni.

ISAs Arbennig ar gyfer pobl ifanc dan 18 oed

Gall plentyn neu ei riant neu warcheidwad agor ISA Iau yn benodol ar gyfer dyfodol eu plentyn. Dim ond y plentyn all gael gafael ar yr arian sy’n cael ei gynilo a dim ond pan fydd yn 18 oed.

Fel ISAs arferol, gellir eu hagor naill ai fel ISAs arian parod neu stociau a chyfranddaliadau, gyda therfyn blynyddol o £9,000 mewn arian newydd y flwyddyn yn ystod blwyddyn dreth 2022/23.

Ac eto, fel ISA Iau, mae’r arian wedi’i gloi tan ben-blwydd y plentyn yn 18 oed. Yna mae’n eiddo iddyn nhw gael gwneud beth bynnag a fynnant ag ef.