Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4.1 ISAs ar gyfer eich cartref cyntaf neu eich ymddeoliad

Mae’r ddelwedd yn cynnwys llun tri dis ar y gwaelod gyda’r llythrennau ‘ISA’ wedi’u sillafu arnynt. Yn eistedd ar ben y dis ceir dau bentwr yr un o dri darn £1. Yn eistedd ar ben un o’r ddau bentwr o ddarnau arian mae model bach o ddyn oedrannus ac ar ben y pentwr arall mae model bach o fenyw oedrannus.
Ffigur 6 Gall LISAs eich helpu i adeiladu eich pensiwn

Mae dau fath arall o ISAs y mae’n bwysig sôn amdanynt, un y gallwch ei agor o hyd, y llall yn dal i redeg ond sydd wedi’i gau i ymgeiswyr newydd.

ISAs Gydol Oes

Gall unrhyw un rhwng 18 a 39 oed agor LISAs, fel ffordd o gynilo ar gyfer cartref cyntaf neu ar gyfer eich ymddeoliad, a gallwch gynilo hyd at £4,000 y flwyddyn dreth. Yn ogystal â llog di-dreth, bydd y wladwriaeth yn darparu bonws o 25% o’r swm rydych chi’n ei arbed bob blwyddyn nes byddwch chi’n 50 oed. Felly, mae’n bosibl cronni bonysau o hyd at £33,000 drwy arbed uchafswm o £4,000 y flwyddyn a chael bonws o £1,000 (25%) am 33 mlynedd.

Fodd bynnag, mae gan LISAs reolau llym ynghylch yr hyn y gallwch ei wneud gyda'r cynilion hyn. Ni ellir eu defnyddio ond ar gyfer y canlynol:

  • Cymorth gyda phrynu eiddo am y tro cyntaf yn y DU. Rhaid defnyddio’r eiddo fel prif breswylfa – a chostio dim ond hyd at £450,000.
  • Helpu i greu cronfa i ddarparu incwm pensiwn o 60 oed ymlaen.

Os byddwch yn tynnu arian o'ch LISA cyn i chi fod yn 60 am unrhyw reswm ar wahân i brynu eiddo am y tro cyntaf, byddwch yn wynebu cosb o 25% ar yr hyn y byddwch yn ei dynnu allan. Yr unig eithriad rhag talu'r ffi hon yw os oes gennych salwch terfynol. Felly, os byddwch yn agor LISA, rhaid i chi fod yn gwbl sicr na fydd angen yr arian arnoch at unrhyw ddibenion heblaw prynu eich cartref cyntaf neu i ddarparu incwm ymddeol. Ond hyd yn oed os ydych chi’n ei ddefnyddio ar gyfer incwm yn ddiweddarach mewn bywyd, mae risgiau ac efallai y byddai’n well i chi gynilo drwy ddulliau eraill (ee, cynyddu cyfraniadau cyflogwyr drwy bensiwn yn y gweithle), felly gwnewch fwy o waith cartref yn gyntaf.

ISAs Cymorth i Brynu

Nid yw’r rhain ar gael mwyach i ymgeiswyr newydd, ond os oes gennych un eisoes, gellir eu defnyddio tuag at brynu eiddo am y tro cyntaf. Mae’r wladwriaeth yn ychwanegu 25% at y cyfrifon ISA arian parod hyn, hyd at uchafswm o £3,000.

Does dim cosbau os byddwch chi'n tynnu'r arian allan a ddim yn ei ddefnyddio i brynu eiddo, ond fyddwch chi ddim yn cael y bonws gan y wladwriaeth.

Gweithgaredd 4 Gostyngiadau treth i gynilwyr

Timing: Caniatewch tua 5 munud ar gyfer y gweithgaredd hwn

Pam mae’r llywodraeth yn cymell cynilo drwy ostyngiadau treth a bonysau (ar LISAs)?

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Answer

Fe welsoch yn gynharach yn y sesiwn hon fod gan y DU record wael o ran cynilo.

Gall cartrefi sydd â mynediad at gynilion reoli mân argyfyngau – er enghraifft, yr angen i dalu am atgyweirio cartrefi neu offer newydd – heb orfod benthyca arian, efallai drwy ddulliau drud fel defnyddio cerdyn credyd.

Hefyd, gellid dadlau mai’r anawsterau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu wrth geisio prynu tŷ am y tro cyntaf yw’r catalydd ar gyfer y gefnogaeth a ddarperir yn awr gan LISAs ac, hyd yn ddiweddar, gan argaeledd ISAs Cymorth i Brynu.

Gall LISAs hefyd helpu’r rheini sydd angen cronni eu cronfeydd pensiwn i’w cynnal ar ôl ymddeol. O ystyried y diffyg yn y cyllid sydd ei angen ar lawer o bobl ar gyfer eu hymddeoliad, mae’r gefnogaeth hon gan y llywodraeth – er nad yw’n sylweddol – yn ddefnyddiol. Er, fel y soniwyd uchod, efallai y bydd ffyrdd gwell o gynilo ar gyfer ymddeol.