Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

6 Yr archfarchnad cynilion: rhai pwyntiau terfynol

Mae’r ffigur yn llun o gangen o fanc neu gymdeithas adeiladu a welir o’r tu allan. Yn y ffenestr ceir poster mawr yn hysbysebu ISA arian parod gyda chyfradd llog o 1.5%.
Ffigur 8 Crwydro siopau am gynnyrch cynilo

Gall cyfrifon cyfredol ennill llog i chi hefyd

Mae rhai o’r cyfraddau llog mwyaf deniadol ar bapur yn dod drwy gyfrifon cyfredol arbenigol lle gall y llog a delir fod yn llawer uwch nag ar gyfrifon cynilo safonol. Fodd bynnag, mae rhai rhybuddion pwysig.

  • Er mwyn cael y cyfraddau llog deniadol hyn, mae’n rhaid i chi fel arfer ymrwymo i dalu isafswm (dyweder, £1,000) i’r cyfrif cyfredol bob mis. Mewn gwirionedd, dyfais yw hon i’ch cael chi i dalu eich cyflog misol neu’ch pensiwn i mewn. Mae hyn yn helpu i sicrhau llif arian rheolaidd, dibynadwy ac o faint gweddol i mewn i’r cyfrif – felly mae’n ffordd daclus i’r banc gael arian i mewn a’ch cael chi i’w ddefnyddio fel eich prif gyfrif cyfredol.
  • Mae terfynau ar uchafswm y balans y telir y gyfradd llog uchel arno – er enghraifft, £2,500. Mae hyn yn atal pobl rhag rhoi balansau enfawr yn y cyfrifon cyfredol hyn – rhywbeth a fyddai’n gostus iawn i’r banciau. Felly, i lawer o bobl, maen nhw’n ffordd syml o ennill llog ar eich arian misol sy’n dod i mewn (a allai wedyn fynd allan fel biliau).
  • Efallai y bydd angen i chi wneud nifer penodol o daliadau debyd uniongyrchol bob mis. Unwaith eto, dyfais yw hon i wneud i chi ddefnyddio hwn fel eich prif gyfrif cyfredol ac nid fel cyfrif cynilo.

Efallai y byddwch am ddefnyddio'ch cyfrif cyfredol fel ffordd o gynilo rhywfaint o'ch arian. Fodd bynnag, dylid defnyddio’r llog y gallech ei ennill fel un o’r ffactorau i’ch helpu i ddewis cyfrif cyfredol, yn hytrach nag i benderfynu ar eich strategaeth cynilo.

Sut ydw i am weithredu fy nghyfrifon?

Yn olaf, mae angen i chi weld sut gallwch chi weithredu eich cyfrif cynilo. Edrychwch i weld ai cyfrif ar-lein yn unig ydyw (mae mwy a mwy o gyfrifon cynilo ar-lein yn unig) neu a allwch chi hefyd ddefnyddio’r cyfrif mewn cangen (mae hyn yn beth da os ydych chi’n hoffi gwneud trafodion wyneb yn wyneb) neu efallai y gallwch chi weithredu’r cyfrif drwy’r post (er bod hyn wedi mynd yn broses sydd wedi dyddio’n arw). Gwiriwch y nodweddion hyn wrth agor cyfrif newydd. Gall cyfrifon ar-lein yn unig gynnig cyfradd ychydig yn uwch na’r rhai y gellir eu gweithredu mewn ffyrdd ychwanegol, gan fod y rhain yn rhatach i fanciau a chymdeithasau adeiladu eu rhedeg.