Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Sesiwn 5: Cynilo a buddsoddi

Cyflwyniad

Croeso i’r sesiwn hon ar gynilion a buddsoddiadau, a gynhyrchwyd gan y Brifysgol Agored mewn cydweithrediad â MoneySavingExpert.com.

Download this video clip.Video player: Fideo 1 Cyflwyniad i Sesiwn 5
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
Fideo 1 Cyflwyniad i Sesiwn 5
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Gwrandewch ar neges Martin Lewis yn Gymraeg isod.

Download this audio clip.Audio player: Clip Sain 1 Cyflwyniad i Sesiwn 5
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
Clip Sain 1 Cyflwyniad i Sesiwn 5
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Mae’r sesiwn yn edrych ar sbectrwm cyfrifon cynilo a chynnyrch buddsoddi. Mae’n dechrau drwy edrych ar bwysigrwydd cyfrifon cynilo a’r llu o wahanol gynnyrch sydd ar gael.

Byddwch wedyn yn edrych ar y gwahanol fathau o gynnyrch buddsoddi fel cyfranddaliadau (neu ‘ecwiti’), bondiau, eiddo a nwyddau (fel aur ac arian). Byddwch hefyd yn edrych ar fath cymharol newydd o fuddsoddiad: benthyca ‘cymar-i-gymar’.

Erbyn diwedd y sesiwn, fe ddylech chi allu:

  • deall prif nodweddion gwahanol gynnyrch cynilo
  • gallu nodi’r cynnyrch cynilo sy’n cyd-fynd â’ch rhesymau dros gynilo
  • deall y gwahanol fathau o fuddsoddiadau, fel cronfeydd, cyfranddaliadau a bondiau
  • cydnabod y mân risgiau sy’n gysylltiedig â chyfrifon cynilo a’r risgiau sylweddol posibl (ond canlyniadau gwerth chweil o bosibl hefyd) sy’n gysylltiedig â buddsoddi
  • gwybod ble i fynd i gael help wrth ystyried buddsoddiadau.

Cofiwch fod y sesiwn hon yn ymdrin ag un o’r agweddau mwyaf peryglus ar gyllid personol: buddsoddi. O’r herwydd, dylid ystyried yr wybodaeth yma fel canllaw addysgol yn unig. Cyn gwneud penderfyniadau buddsoddi – rhai mawr yn sicr – dylech ofyn am gyngor o ystyried y risg o golled ariannol bosibl y gallech fod yn gosod eich hun yn ei llwybr.

Mae’r Sesiwn hon yn un o gyfres sy’n creu cwrs Academi Arian MSE a bu’n bosibl ei wireddu drwy gyfraniadau ariannol a chynnwys gan MoneySavingExpert.com.