Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Glossary

Amrediad cynnig-i-bris
(Fe’i gelwir hefyd yn amrediad bid-i-gynnig.) Yr amrywiad rhwng y pris y bydd gwneuthurwr y farchnad yn ei dalu am ased (y ‘bid’) a’r pris (uwch) lle byddant yn gwerthu’r un ased (y ‘cais’ neu’r ‘cynnig’).
Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA).
Rheoleiddiwr marchnadoedd a chwmnïau gwasanaethau ariannol y DU.
Bond Premiwm
Bond loteri sy’n cael ei gyflwyno gan lywodraeth y DU drwy ei hasiantaeth Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I).
Compowndio
Y broses o ennill llog ar enillion llog blaenorol yn ogystal â’r symiau gwreiddiol a gynilwyd (neu, i fenthycwyr, o orfod talu llog ar log blaenorol yn ogystal â’r swm gwreiddiol a fenthyciwyd).
Cronfeydd cyfnewid a fasnechir (ETFs)
Cwmnïau sy’n masnachu ar y farchnad stoc lle mae pris y cyfranddaliadau wedi’i gysylltu’n uniongyrchol â gwerth y buddsoddiadau sylfaenol sydd ganddynt.
Cwmnïau Buddsoddi Eiddo Tirol (REICs)
Cwmnïau y gall eu busnes gynnwys prynu, gwerthu, adnewyddu a gosod eiddo a chyllido datblygiadau eiddo.
Cyfraddau disgownt
Y ffactorau a ddefnyddir i ragweld llifoedd arian yn y dyfodol i roi eu gwerth presennol iddynt – a fynegir hefyd fel gwerth arian heddiw.
Cyfradd Flynyddol Gyfatebol (AER)
Gwir gyfradd llog flynyddol ar gynnyrch cynilo ar ôl ystyried faint a pha mor aml y caiff llog ei dalu ym mhob blwyddyn.
Cyfranddaliadau cwmni
Asedau ariannol sy’n rhan-berchnogaeth ar gwmni.
Cyfrif Cynilo Unigol (ISA)
Cynilion (ISA Arian Parod) neu fuddsoddiadau (ISA Stociau a Chyfranddaliadau) lle nad oes rhaid talu treth ar y llog neu enillion eraill.
Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I)
Banc cynilo sy’n eiddo i wladwriaeth y DU. Mae’r llywodraeth yn defnyddio’r corff hwn i fenthyca arian gan y cyhoedd.
Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS)
Y cynllun i ddiogelu cynilion a buddsoddiadau a wneir gan y cyhoedd yn y DU os bydd yr endid y gwnaed y buddsoddiadau gydag ef yn methu.
Chwyddiant
Cynnydd yn lefelau’r prisiau.
Difidendau
Fel arfer, mae’r taliadau’n cael eu gwneud yn flynyddol neu’n hanner blynyddol i gyfranddalwyr cwmni.
Enwol
Yng nghyd-destun buddsoddiadau, gwerth wyneb ased. Yn fwy cyffredinol, mae’r term yn golygu heb ei addasu i ystyried chwyddiant prisiau. Gelwir hyn yn aml yn ‘yn nhermau arian parod’. Gweler Gwir.
Gwarannau
Asedau ariannol (fel bondiau) y gellir buddsoddi ynddynt.
Gwarchodaeth (Hedge)
Ffordd o wrthbwyso symudiad pris niweidiol ased neu grŵp o asedau.
Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Corff canllawiau ariannol y DU sydd wedi ymgorffori'r Gwasanaeth Cynghori Ariannol (MAS), y Gwasanaeth Cyngor am Bensiynau (TPAS) a Pension Wise.
Gwerth presennol
Gwerth llif arian yn y dyfodol, neu gyfres o lifoedd arian, yn nhermau arian heddiw.
Gwir
Wedi’i addasu i ystyried chwyddiant prisiau. Gweler Enwol.
Lwfans cynilion personol
Uchafswm y llog y gellir ei ennill ym mhob blwyddyn dreth heb dreth incwm. Nid yw hyn yn berthnasol i log ar ISAs sydd bob amser yn ddi-dreth.
Llog
Canran (%) cyfradd enillion ar gyfrif cynilo, a delir yn flynyddol fel arfer.
Masnachwr stoc
Person neu sefydliad ariannol sy’n dyfynnu prisiau ar gyfer prynu a gwerthu asedau ariannol diffiniedig (ee, cyfranddaliadau cwmni).
Mynegai
Mae mesur ystadegol grŵp diffiniedig o asedau – er enghraifft mynegai FTSE-100 – yn mesur y symudiad yng ngwerth cyfran gyfun y 100 cwmni uchaf a restrir ar Gyfnewidfa Stoc Llundain.
Mynegai can cwmni’r FTSE
Mynegai’r 100 cwmni mwyaf a restrir ar Gyfnewidfa Stoc Llundain.
Rhyddhau ecwiti
Defnyddio cynnyrch ariannol i gael gafael ar yr ecwiti a ddelir mewn eiddo, a’i droi’n arian parod, heb orfod gwerthu’r eiddo.
Rhywun sydd wedi’i awdurdodi i gymryd adneuon
Sefydliad ariannol sy’n cael derbyn adneuon (cynilion) gan y cyhoedd yn y DU.
Sgoriau credyd
Asesiadau o deilyngdod credyd a wneir gan asiantaethau sgorio credyd.
Traciwr
Ased ariannol y mae ei bris yn gysylltiedig â mynegai diffiniedig (ee, FTSE-100) neu gyfradd llog (ee, Cyfradd Banc).
Treth Enillion Cyfalaf (CGT)
Y dreth a godir ar yr elw a wneir ar werthu asedau (ee, ail gartrefi) yn y DU.
Y flwyddyn (y.f.)
Y flwyddyn.