Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

7 Beth fydda i’n gallu ei wneud gyda fy mhensiwn pan fydda i’n ymddeol?

Pan fyddwch yn cyrraedd 55 oed gallwch godi (neu ‘dynnu i lawr’) hyd at 25% o'ch pot pensiwn yn ddi-dreth. Mae hyn wedi bod yn wir ers sawl blwyddyn. Ond, noder bod y disgwyl i'r oedran ieuengaf lle y gellir gwneud hyn godi i 57 oed yn 2028.

Ffotograff o gwpl hŷn yw’r ffigur – dyn a menyw yn cerdded mewn coedwig.
Ffigur 10 Mae mwy o opsiynau wrth benderfynu sut i ddefnyddio’ch pot pensiwn nawr

Yr hyn sydd wedi newid yn fwyaf diweddar yw beth rydych chi’n gallu ei wneud gyda’r gweddill. Dim ond ychydig o opsiynau oedd gan bobl wnaeth ymddeol gyda chynlluniau pensiwn â chyfraniadau wedi’u diffinio cyn mis Ebrill 2015, oni bai am drosi’r gronfa bensiwn oedd ar ôl ganddynt yn flwydd-dal. Blwydd-dal yw pan ydych chi’n rhoi eich pot i gwmni yswiriant ac rydych chi’n cael incwm yn gyfnewid am hynny – am weddill eich oes yn y rhan fwyaf o achosion.

I bob pwrpas, yswiriant yw hwn yn erbyn byw am gyfnod hirach nag y byddai eich pot pensiwn yn para fel arall. Fodd bynnag, bydd darparwr y blwydd-dal yn cymryd cyfran o'r pot pensiwn mewn taliadau cyn troi'r hyn sy'n weddill yn incwm.

Fodd bynnag, ym mis Ebrill 2015, cafodd yr opsiynau ar gyfer defnyddio’r cronfeydd pensiwn cronedig oedd ar gael i'r rheini ar gynlluniau â chyfraniadau wedi’u diffinio eu newid yn radical o ganlyniad i ddeddfwriaeth newydd y llywodraeth, a nawr mae gennych chi fwy o ryddid. Y diwygiadau hyn a’u heffaith sy’n cael eu harchwilio nesaf.