Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

9 Dim digon yn eich cynllun pensiwn – yr opsiynau

Mae’n amser wynebu realiti eich cynllun pensiwn.

Yn gynharach, fe wnaethoch chi edrych ar sut mae amcangyfrif eich gwariant yn ystod ymddeoliad. Nawr, mae angen i chi grynhoi’r incwm pensiwn rydych chi’n disgwyl ei gael. Mae hyn yn cynnwys pensiwn y wladwriaeth a’r incwm o unrhyw gynlluniau pensiwn galwedigaethol a phreifat. Cofiwch gynnwys y pensiwn a ddarparwyd gan y cynlluniau galwedigaethol mewn gweithleoedd blaenorol, oni bai eich bod wedi trosglwyddo'r rhain i’ch cynllun pensiwn presennol. Os ydych chi mewn cynllun galwedigaethol, dylai adran AD eich cyflogwr allu helpu gyda hyn os oes angen.

Mae adolygu eich sefyllfa yn hanfodol i unrhyw un sydd â chynllun pensiwn â chyfraniadau wedi’u diffinio (sy’n cynnwys y rheini â chynllun pensiwn personol) oherwydd nad oes modd rhagweld perfformiad y farchnad stoc, ac efallai na fydd y pot pensiwn yn cronni ar y gyfradd y tybiwyd yn debygol yn wreiddiol. Mae’r rhan fwyaf o gynlluniau pensiwn yn cyhoeddi datganiadau bob blwyddyn. Mae hyn yn eich galluogi chi i gadw golwg ar sut mae eich pensiwn yn cronni yn rheolaidd.

Yn ddelfrydol, dylid cymharu gwariant yn ystod ymddeoliad ag incwm pensiwn ar sail cyllideb flynyddol. Efallai na fydd cyllideb fisol yn cynnwys yr holl eitemau o wariant nad ydynt yn digwydd bob mis (ee, gwario ar wyliau).

Os ydych chi’n amcangyfrif y bydd eich incwm yn fwy na’ch gwariant, rydych chi ar y trywydd iawn i gael ymddeoliad y gallwch ei fwynhau’n llawn. Os yw’r gwrthwyneb yn wir, mae angen i chi weithredu – ac ni ddylech oedi cyn rhoi cynllun ar waith i ddatrys y problemau ariannol a fydd yn eich wynebu yn nes ymlaen yn eich bywyd.

Beth yw eich opsiynau?

Os ydych chi’n dal ychydig ddegawdau oddi wrth ymddeol, yr opsiwn cyntaf y dylech chi edrych arno yw cynyddu eich cyfraniadau i’ch cynllun pensiwn. Fel arfer, mae modd gwneud cyfraniadau gwirfoddol ychwanegol mewn cynlluniau galwedigaethol. Gyda chynlluniau personol, chi sy’n dewis faint rydych chi eisiau ei gyfrannu bob amser. Os ydych chi’n talu treth incwm, byddwch chi’n elwa o’r rhyddhad treth ar gyfraniadau hyd at y trothwy blynyddol a bennir gan y llywodraeth.

Os ydych chi’n agos at ymddeol, mae’n dal yn gwneud synnwyr ystyried rhoi ychydig mwy yn eich cronfa bensiwn, ar yr amod eich bod chi ddim yn mynd dros y trothwy gydol oes sydd wedi’i bennu gan y llywodraeth ar gyfer cronfeydd pensiwn (£1,075,100 ar hyn o bryd).

Pan fyddwch chi’n agos at ymddeol, efallai mai cyfyngedig fydd y cyfleoedd i adeiladu eich cronfa, a maint yr incwm pensiwn y byddwch chi’n ei gael yn sgil hynny. Efallai y bydd angen ystyried opsiynau eraill.

  • Lleihau gwariant. Ailedrych ar eich rhagolygon ar gyfer gwariant. A oes rhai meysydd lle gallech chi arbed arian? A fyddai modd lleihau eich biliau drwy symud at gyflenwyr rhatach? A allech chi hepgor ambell weithgaredd roeddech chi wedi bwriadu eu gwneud ar ôl ymddeol?
  • Gohirio eich ymddeoliad a gweithio am ychydig mwy o flynyddoedd. Efallai nad hyn rydych chi eisiau ei wneud, ond byddai gweithio am ychydig mwy o flynyddoedd yn eich helpu i gynyddu eich cronfa bensiwn. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn y DU yn gweithio y tu hwnt i oedran pensiwn y wladwriaeth nawr, ac mae gennych chi hawl i wneud hyn yn y rhan fwyaf o alwedigaethau ers 2011. Yn 2020, roedd 1.4 miliwn o bobl 65 oed a hŷn yn gweithio yn y DU, sy’n gynnydd o’i gymharu â’r 272,000 oedd yn gweithio yn 1997 (Smart Pension, 2017; Aviva, 2020). Un o fanteision gweithio y tu hwnt i oedran ymddeol y wladwriaeth yw bod dim angen talu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG) beth bynnag fo’ch enillion.
  • Defnyddio eich cynilion. Os oes gennych chi gynilion a buddsoddiadau y tu allan i’r rheini yn eich cynllun pensiwn – er enghraifft, mewn cynnyrch ISA – gallech chi ddefnyddio’r rhain i ychwanegu at eich incwm pensiwn. Gallai hyn olygu’r incwm o’r rhain yn unig – yr enillion yn sgil llog a difidendau. Fodd bynnag, gallech chi hefyd ddefnyddio’r cyfalaf sydd wedi’i fuddsoddi – i bob pwrpas, defnyddio’r cynilion a'r buddsoddiadau fel cronfa i dynnu i lawr mewn camau yn ystod blynyddoedd eich ymddeoliad. Ond, os byddwch chi’n gwneud hyn, bydd y llog a’r enillion eraill rydych chi’n eu cael un is nag y byddent pe baech chi’n gadael y cyfalaf heb ei gyffwrdd.
  • Defnyddio eich cyfandaliad pensiwn. Os byddwch chi’n cymryd rhan o’ch pensiwn ar ffurf cyfandaliad di-dreth, mae’n darparu ffynhonnell arall o gyfalaf i’w fuddsoddi neu ei dynnu i lawr. Er bod llawer o bobl yn defnyddio’r cyfandaliad at ddibenion penodol – fel talu gweddill eu morgais – mae eraill yn ei ddefnyddio fel ffynhonnell arall o arian i’w ddefnyddio mewn camau dros sawl blwyddyn.
  • Defnyddio asedau eraill. Gallai hyn gynnwys hen greiriau, gemwaith neu’ch cartref. Mae pobl yn troi’n fwyfwy at gynnyrch rhyddhau ecwiti i ddefnyddio’r cartref sy’n eiddo iddynt er mwyn creu arian parod i’w cefnogi yn ystod eu hymddeoliad. Fodd bynnag, mae’n ffordd ddrud o fenthyca arian ac mae cymhlethdodau ynghlwm wrth hyn – er enghraifft, bydd yn lleihau maint yr etifeddiaeth y bydd eich teulu neu fuddiolwyr eraill yn disgwyl ei chael. Os hoffech chi ddysgu mwy am y farchnad rhyddhau ecwiti, mae dolen i ragor o wybodaeth ar gael ar ddiwedd y sesiwn.
  • Un syniad olaf i wneud arian o’ch cartref yw rhentu ystafell i lojer, os nad oes ots gennych chi gael rhywun arall yn eich cartref. Mae enillion o lety rhent o'r fath yn ddi-dreth hyd at £7,500 y flwyddyn i unigolyn, neu £3750 yr un i gwpl, o dan y cynllun ‘rhentu ystafell’.

Gweithgaredd 8 Rhoi hwb i'ch cyllid ar gyfer eich ymddeoliad

Timing: Dylech ganiatáu tua 5 munud

Gan edrych ar yr opsiynau uchod, pa rai fyddech chi’n eu hystyried yn rhai:

  • posibl?
  • angenrheidiol?
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Discussion

Yn amlwg bydd eich ateb yn adlewyrchu eich amgylchiadau personol. Gallai gohirio eich ymddeoliad ymddangos yn opsiwn annymunol – mae’n dibynnu a ydych chi’n hoffi’ch swydd neu beidio. I lawer o bobl, mae'r amgylchedd cymdeithasol – yn ogystal â’r incwm, wrth gwrs – yn gwneud iawn am ohirio eu hymddeoliad am flwyddyn neu ddwy. Gallai tocio eich cynlluniau gwario fod yn ymarferol – er y byddai hyn yn tynnu oddi ar y math o ymddeoliad roeddech chi wedi’i ragweld.