Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Sesiwn 6: Cynllunio ar gyfer ymddeoliad

Cyflwyniad

Gellid dadlau mae cynllunio pensiwn yw'r agwedd bwysicaf ar reolaeth ariannol bersonol.

Download this video clip.Video player: Fideo 1 Cyflwyniad i Sesiwn 6
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
Fideo 1 Cyflwyniad i Sesiwn 6
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Gwrandewch ar neges Martin Lewis yn Gymraeg isod.

Download this audio clip.Audio player: Clip Sain 1 Cyflwyniad i Sesiwn 6
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
Clip Sain 1 Cyflwyniad i Sesiwn 6
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Mae sicrhau digon o incwm i gael ymddeoliad cyfforddus y gallwch chi ei fwynhau wedi bod yn bwysig erioed ac, o ystyried bod hirhoedledd ar i fyny, mae’r amser mae pobl yn ei dreulio wedi ymddeol wedi cynyddu yn ystod y degawdau diwethaf. Mae gan bobl 65 oed yn y DU ddisgwyliad oes cyfartalog o 19 mlynedd ychwanegol i ddynion a 21 mlynedd ychwanegol i fenywod (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2019a). Dim ond y disgwyliad oes cyfartalog yw hwn: mae llawer o bobl yn cyrraedd eu degfed degawd a thu hwnt.

Mae bob amser wedi bod yn bwysig cynllunio i sicrhau incwm yn nes ymlaen mewn bywyd ond, oherwydd bod pobl yn byw’n hŷn, mae hynny’n hanfodol erbyn hyn. Mae ffactorau eraill wedi ategu'r angen hwn i baratoi ar gyfer ymddeoliad yn gynnar yn eich bywyd:

  • Mae’r oedran y caiff pobl ddechrau hawlio pensiwn y wladwriaeth wedi bod yn codi – yn enwedig i fenywod – a bydd yn codi eto yn y dyfodol. Gyda phobl yn byw’n hŷn, mae’r costau mae’r llywodraeth yn eu hysgwyddo yng nghyswllt pensiwn y wladwriaeth yn cynyddu. Felly, mae codi'r oedran y caiff pobl ei hawlio yn un ffordd o liniaru’r gost hon.
  • Mae elw isel ar fuddsoddiad yn ystod y degawd diwethaf, gyda chyfraddau llog yr isaf maen nhw wedi bod, wedi’i gwneud yn anoddach cronni cynilion i gynyddu incwm pensiwn.

Mae’r sesiwn hon yn edrych ar sut mae cynllunio i gael incwm digonol yn nes ymlaen mewn bywyd.

Byddwch yn astudio pensiwn y wladwriaeth, cynlluniau pensiwn personol a galwedigaethol, yn ogystal â ffyrdd eraill o gael arian i’w ddefnyddio ar ôl ymddeol.

Byddwch hefyd yn edrych ar y diwygiadau i bensiynau a gyflwynwyd yn 2015. Maen nhw wedi rhoi mwy o opsiynau i bobl ddefnyddio eu cronfeydd pensiwn.

Mae materion treth cymhleth yn gysylltiedig â phensiynau hefyd, a byddwch chi’n dysgu am y rhain.

Dydy hi byth yn rhy gynnar i ddechrau meddwl am gynllunio pensiwn, felly beth am ddechrau arni drwy edrych ar sut mae’ch gwariant yn newid pan ydych chi’n ymddeol. Cyn gwybod faint o incwm sydd ei angen arnoch chi ar ôl ymddeol, mae angen i chi gael amcan da o faint rydych chi’n disgwyl ei wario.

Ar ddiwedd y sesiwn, fe ddylech chi ddeall:

  • sut mae pensiwn y wladwriaeth yn gweithio yn y DU
  • cynlluniau pensiwn personol a galwedigaethol
  • y gwahaniaethau rhwng cynlluniau pensiwn â buddion wedi’u diffinio (‘cysylltiedig â chyflog’) a chyfraniadau wedi’u diffinio (‘prynu arian’).
  • yr hyblygrwydd sydd nawr ar gael i ddefnyddio’r arian yn eich cronfa bensiwn (a’r risgiau y gallech chi eu hwynebu yn sgil hyn)
  • y prif faterion treth sy’n gysylltiedig â chynllunio pensiwn
  • eich opsiynau os nad yw’ch incwm pensiwn yn ddigon i fodloni eich gwariant ar ôl ymddeol.

Mae’r Sesiwn hon yn un o gyfres sy’n creu cwrs Academi Arian MSE a bu’n bosibl ei wireddu drwy gyfraniadau ariannol a chynnwys gan MoneySavingExpert.com.