Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2 Deall treth incwm

Gweithwyr

Pan ydych chi’n ennill arian drwy weithio i gyflogwr, dydych chi ddim fel arfer yn cael eich cyflog cyfan (eich incwm ‘gros’). Yn hytrach, rydych chi’n cael eich incwm gros ond gyda thaliadau penodol fel treth ac Yswiriant Gwladol wedi’u tynnu ohono. Yr hyn sy’n weddill yw eich incwm ‘net’ – dyma’r swm rydych chi’n ei gael yn eich llaw.

Slip cyflog gyda'r didyniad PAYE (treth incwm) wedi'i gylchu yw’r ddelwedd.
Ffigur 2 Yr awdurdodau treth yn cymryd eu siâr

Hunangyflogedig

Os ydych chi’n hunangyflogedig, nid yw’ch enillion yn cael eu trethu’n awtomatig. Mae taliadau am y gwaith rydych chi’n ei wneud yn cael eu prosesu heb ddidyniadau treth. Felly, mae'r cyfrifoldeb arnoch chi i neilltuo’r arian y bydd angen i chi ei dalu ar ôl i chi gwblhau eich ffurflen dreth flynyddol.

Un ffordd o helpu i sicrhau eich bod yn cadw'r arian a fydd yn ddyledus mewn treth yw agor cyfrif banc newydd a rhoi traean o’r holl arian rydych chi’n ei gael am eich gwaith yn hwnnw. Bydd cael y cyfrif ar wahân hwn yn helpu i sicrhau eich bod chi ddim yn gwario’r arian cyn bod angen i chi ei dalu i’r casglwr trethi. Dydy neilltuo traean o’ch enillion ddim yn amcan manwl o’ch bil treth ond mae’n amcan digon da, a fydd yn golygu na fyddwch chi’n mynd i banig pan fydd y dreth yn ddyledus.

Os ydych chi’n cyflogi cyfrifydd, bydd yn eich helpu chi i gynllunio’ch treth.

Didyniadau o’ch enillion gros

Yn y DU, y ddau brif daliad sy’n dod allan o'ch incwm gros yw treth incwm a Chyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG), sy’n cael eu trafod yn yr adran nesaf. Efallai y bydd didyniadau eraill yn cael eu gwneud hefyd, fel cyfraniadau i gynllun pensiwn – ond am y tro, byddwch yn canolbwyntio ar y ddau brif daliad yma sy’n berthnasol i'r rhan fwyaf o bobl.

Caiff treth incwm ei osod – neu ei godi – ar bron bob math o incwm, gan gynnwys pensiynau (ond nid yw’n daladwy ar roddion, enillion loteri, enillion Bondiau Premiwm ac enillion mewn ISA). Pan mae’n cael ei gasglu gan CThEM drwy gyflogwr (pan mae’r gweithiwr yn gyflogedig yn hytrach na hunangyflogedig), cyfeirir ato fel treth ‘talu wrth ennill’ (PAYE) yn aml.

Telir treth incwm ar incwm rydych chi’n ei dderbyn o fewn blwyddyn dreth benodol (o 6 Ebrill un flwyddyn i 5 Ebrill y flwyddyn ganlynol).

Caniateir i chi ennill hyd at swm penodol o arian cyn gorfod talu treth incwm. Gelwir hyn yn dderbyn y ‘lwfans personol’, a oedd yn £12,570 ar gyfer blwyddyn dreth 2022/23.

Mae’r lwfans yn uwch ar gyfer grwpiau penodol o bobl, fel y rhai sydd wedi’u cofrestru’n ddall. Y bwriad oedd i'r lwfans personol hwn gynyddu bob blwyddyn yn unol â chyfradd chwyddiant prisiau wedi'i mesur gan y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI). Fodd bynnag, mae effaith andwyol pandemig COVID-19 ar gyllid y llywodraeth wedi oedi'r uchelgais hwn.

Mae gan y lwfans personol derfyn incwm o £100,000. Os ydych chi’n ennill uwchben y terfyn hwn, mae’r lwfans yn lleihau’n raddol, ac nid yw’r rheini sy’n ennill dros £125,140 y flwyddyn (yn 2022/23) yn cael unrhyw lwfans personol.

Treth incwm yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Os ydych chi’n ennill mwy na’ch lwfans personol yn ystod unrhyw flwyddyn dreth, bydd angen i chi dalu treth ar y swm rydych chi’n ei ennill uwchben hwn. Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, roedd tri band treth gwahanol yn 2022/23:

  • roedd y £37,700 cyntaf uwchben y lwfans personol yn cael ei drethu ar 20%, a elwir yn dreth cyfradd sylfaenol
  • ar gyfer £50,000 - £150,000 o incwm trethadwy, roedd y gyfradd yn 40%, sef treth cyfradd uwch
  • roedd cyfradd o 45% ar incwm trethadwy dros £150,000, sef treth cyfradd ychwanegol.

Ar hyn o bryd, mae gan Gymru a Gogledd Iwerddon yr un cyfraddau a bandiau treth incwm â Lloegr. Mae pwerau rhannol i osod treth incwm wedi cael eu datganoli i Gymru er, hyd yma, mae'r bandiau a chyfraddau treth effeithiol wedi aros yr un fath â rhai Lloegr.

Treth incwm yn yr Alban

Ers 1999, mae’r Alban wedi bod â rhywfaint o ddisgresiwn o ran trethi, a nawr mae ganddi strwythur treth incwm rhywfaint yn wahanol. Yn 2021/22:

  • roedd y £2,162 cyntaf uwchben y lwfans personol yn cael ei drethu ar 19%.
  • roedd y £10,956 nesaf yn cael ei drethu ar 20%
  • roedd y £17,974 nesaf yn cael ei drethu ar 21%
  • ar gyfer incwm trethadwy o £43,663 i £150,000, roedd cyfradd treth o 41% yn berthnasol
  • roedd cyfradd o 46% ar incwm trethadwy dros £150,000.

Effaith economaidd treth incwm

Treth incwm yw'r ffynhonnell fwyaf o refeniw trethi – mae’n gyfrifol am bron i draean derbyniadau treth y llywodraeth. Caiff yr incwm ei ddefnyddio i dalu am wariant y llywodraeth, ar bethau fel yr heddlu, y GIG a'r gwasanaeth sifil.

Mae treth incwm yn fath o dreth raddoledig. Mae hyn yn golygu bod cyfran yr incwm sy’n cael ei dalu mewn treth incwm yn cynyddu wrth i enillion gynyddu. Er enghraifft, yn 2022/23, byddai rhywun a oedd yn ennill £25,000 yn talu 9.9% o’i enillion mewn treth incwm. Byddai rhywun a oedd yn ennill £100,000 yn talu 27.4% o’i enillion mewn treth incwm.

Wrth bennu cyfraddau treth incwm, mae angen i’r llywodraeth ystyried yr effaith ar y cymhelliant i weithio. Gall cyfraddau treth incwm uchel berswadio pobl i beidio â chymryd gwaith ychwanegol neu chwilio am swyddi â rhagor o gyfrifoldebau sy’n talu incwm mwy. Bydd pobl sy’n gwneud penderfyniadau o’r fath yn aml yn canolbwyntio ar faint o incwm net ychwanegol y byddant yn ei gael – sef yr arian yn eu poced bob mis. Mae cyfraddau treth uchel yn golygu mai dim ond cynnydd bach y byddan nhw’n ei gael, a gallai hynny olygu eu bod yn llai tebygol o wneud y gwaith ychwanegol.

Ar ddiwedd y sesiwn hon, fe welwch chi ddolen i gyfrifiannell treth incwm MoneySavingExpert i’ch helpu chi i weld a ydych chi’n talu'r swm cywir o dreth.