Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

5 Deall codau treth

Mae’n bwysig deall sut caiff treth incwm ei didynnu, ond mae hefyd angen i chi gadw llygad ar eich cod treth. Mae'r cod hwn yn dweud wrth eich cyflogwr neu’ch darparwr pensiwn faint o dreth incwm i'w dynnu o’ch cyflog neu’ch pensiwn. Mae’ch cod treth i'w weld ar bob slip cyflog.

Casgliad o geiniogau Prydeinig ar ben llythyr gan CThEM yw’r ddelwedd.
Ffigur 4 Darllenwch unrhyw ohebiaeth gan CThEM yn ofalus bob amser

Mae’r cod fel arfer yn cynnwys pedwar rhif ac un neu ddwy o lythrennau – er enghraifft, 1257L. Yn yr Alban, byddai S o’i flaen, a byddai C o’i flaen yng Nghymru, felly S1257L neu C1257L.

Mae’r rhifau’n diffinio eich lwfans personol di-dreth. Yn syml, rydych chi’n ychwanegu sero (0) at ddiwedd y rhif, felly yn yr enghraifft uchod, byddai’ch lwfans personol yn £12,570 ar gyfer y flwyddyn dreth.

Mae'r llythyren yn y cod yn diffinio natur eich incwm. L yw’r llythyren fwyaf cyffredin mewn codau treth oherwydd mae’n berthnasol i'r rhan fwyaf o bobl sydd ag un swydd – boed honno’n amser llawn neu’n rhan-amser.

Mae dwy ffurflen dreth a fydd yn dod yn gyfarwydd i chi ystod eich amser ym myd gwaith:

  • P60: datganiad blynyddol o faint rydych chi wedi'i ennill yn ystod y flwyddyn dreth honno, a faint rydych chi wedi'i dalu mewn treth incwm a didyniadau eraill. Byddwch chi fel arfer yn cael hon gan eich cyflogwr cyn pen dau fis i ddiwedd y flwyddyn dreth (5 Ebrill).
  • P45: datganiad o'r incwm a dalwyd i chi a’r dreth a ddidynnwyd ar gyfer y flwyddyn hyd yn hyn pan fyddwch chi’n gadael swydd (y ‘flwyddyn dreth gyfredol’). Mae angen pasio’r ffurflen hon ymlaen i’ch cyflogwr newydd er mwyn iddo wybod beth yw’ch cod treth a faint o dreth rydych chi wedi’i thalu eisoes yn ystod y flwyddyn dreth.

Mae’r tabl isod yn dangos y llythrennau eraill mwyaf cyffredin a ddefnyddir gan CThEM yn eu codau treth.

Tabl 2 Y gwahanol godau treth
Cod Esboniad
L Mae gennych chi hawl i’r lwfans personol di-dreth safonol
M ac N Mae’r rhain yn ymwneud â lwfansau priodas ychwanegol y mae rhai pobl yn gymwys i’w cael
K Ar gyfer rhywun ag incwm sydd werth mwy na’r lwfansau di-dreth ac yn cael ei drethu mewn ffordd arall.
T Mae’r cod hwn yn berthnasol pan mae cyfrifo’r dreth sy’n ddyledus yn fwy cymhleth – er enghraifft, rhywun sy’n ennill incwm mawr iawn
0T Naill ai mae’ch lwfans personol wedi cael ei ddefnyddio i gyd (ee, drwy gael ei ddefnyddio yn erbyn ffynhonnell arall o incwm) neu rydych chi wedi dechrau swydd newydd a does gennych chi ddim ffurflen P45 (gweler uchod), neu does gan eich cyflogwr ddim digon o fanylion i roi eich cod treth i chi.
BR Mae eich holl incwm yn cael ei drethu ar y gyfradd dreth sylfaenol – fel arfer yn berthnasol i chi os oes gennych chi fwy nag un swydd neu bensiwn.
D0 Mae eich holl incwm yn cael ei drethu ar y gyfradd treth incwm uwch – fel arfer yn berthnasol i chi os oes gennych chi fwy nag un swydd neu bensiwn.
D1 Mae eich holl incwm yn cael ei drethu ar y gyfradd dreth ychwanegol – fel arfer yn berthnasol os oes gennych chi fwy nag un swydd neu bensiwn.
NT Mae'r cod hwn yn berthnasol os nad ydych chi’n talu unrhyw dreth ar eich incwm. Mae’n berthnasol i’r rheini mewn rhai categorïau hunangyflogaeth
W1, M1 ac X Codau treth argyfwng yw’r rhain (M1 os ydych chi’n cael eich talu’n fisol, W1 os ydych chi’n cael eich talu’n wythnosol). Mae hyn yn golygu bod y dreth yn cael ei chyfrifo ar yr incwm a enillir yn y cyfnod talu presennol yn unig, yn hytrach nag asesiad o'r hyn byddwch chi’n ei ennill mewn blwyddyn gyfan.

Caiff codau treth argyfwng eu diweddaru’n awtomatig ar ôl i chi roi eich P45 i’ch cyflogwr fel arfer (gweler uchod). Os ydych chi ar god treth argyfwng am fwy na mis neu ddau ar ôl dechrau swydd newydd, mae’n werth cysylltu â CThEM a gofyn iddyn nhw anfon cod treth wedi'i ddiweddaru i’ch cyflogwr. Byddwch chi bob amser yn dechrau blwyddyn dreth newydd gyda chod treth arferol, nid un argyfwng.

Gweithgaredd 1 Beth yw eich cod treth?

Timing: Caniatewch tua 5 munud ar gyfer y gweithgaredd hwn

Edrychwch ar eich slip cyflog diweddaraf ac edrych ar eich cod treth incwm.

A yw’r cod yn edrych yn iawn o ystyried yr wybodaeth yn Nhabl 2 uchod?

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Answer

Os yw’r cod yn edrych yn iawn, does dim problemau i chi fynd i'r afael â nhw.

Os yw’n edrych yn anghywir, efallai y dylech chi wirio eich dealltwriaeth gydag adran cyflogres eich sefydliad yn gyntaf. Serch hynny, ni all adran y gyflogres newid y cod os yw’n anghywir. Dim ond CThEM sy’n gallu gwneud hyn ac felly, os oes gwall, mae angen i chi gysylltu â nhw.

Ar ddiwedd y sesiwn hon, bydd dolenni i adnodd gwirio codau treth MoneySavingExpert yn cael eu darparu i chi os oes angen mwy o gymorth arnoch chi.