Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

6 Pam mae angen i mi gyllidebu?

Felly sut mae pennu cyllideb yn eich helpu i reoli arian eich aelwyd?

  • Mae'n eich helpu i reoli gwariant drwy gymharu eich incwm â'ch gwariant.
  • Mae’n eich helpu i wneud yn siŵr bod gennych ddigon o incwm i dalu biliau nawr ac yn y dyfodol heb orfod benthyca arian.
  • Mae’n dangos i chi faint o incwm ‘dros ben’ mae’n rhaid i chi ei gynilo neu ei wario ar bleserau (fel esgidiau newydd neu wyliau ychwanegol).
  • Mae’n gwneud yn siŵr eich bod yn canolbwyntio i weld a allech chi wneud gwell penderfyniadau o ran y ffordd rydych chi’n gwario eich arian.
  • Mae’n caniatáu i chi gynllunio sut rydych chi’n cyflawni eich nodau gwario a’ch targedau ariannol, fel cynilo.

Mae cynnal ymarfer cyllidebu unwaith yn ddefnyddiol i’ch helpu i ganfod a yw eich gwariant dan reolaeth, ond mae cyllidebu yn fwyaf effeithiol pan fyddwch yn ei ddefnyddio fel rhan o broses barhaus.

Nawr eich bod yn deall effaith treth incwm a chyfraniadau YG ar eich enillion, gallwch ddechrau’r broses o lunio cyllideb.

I lunio cyllideb, dechreuwch drwy edrych ar eich llif arian. Mae hyn yn golygu mesur eich incwm a’ch gwariant yn rheolaidd. Byddwch chi’n edrych ar yr ochr incwm yn gyntaf.