Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

8 Troi at ochr gwario'r gyllideb

Nawr byddwch yn edrych ar ochr gwario’r gyllideb. Mae gwahanol gategorïau gwario – bydd rhai costau’n cynnwys pethau y mae’n rhaid i ni eu talu, fel biliau, ond hefyd yn cynnwys eitemau gwario y mae gennym ni ddisgresiwn llwyr drostynt, fel dewis prynu llyfr neu ei adael ar y silff.

Mae deall y gwahaniaeth yn ein galluogi ni i wneud penderfyniadau gwario da a ffrwyno ein gwariant lle bo angen.

Ffotograff o gwpl ifanc mewn archfarchnad yn edrych ar dderbynneb hir yw'r ddelwedd. Mae’r dyn yn defnyddio cyfrifiannell ar ei ffôn symudol i wirio’r dderbynneb.
Ffigur 7 Wnaethon ni wario cymaint â hynny go iawn?

Gweithgaredd 3 Methu byw hebddo?

Timing: Caniatewch tua 10 munud ar gyfer y gweithgaredd hwn

Mae’r rhan fwyaf ohonom ni weithiau’n gwario ar bethau hanfodol ac weithiau ar bethau er pleser. Ond beth am y pethau sydd ddim yn ffitio i'r naill gategori na'r llall?

Sut byddech chi’n dosbarthu’r eitemau gwariant a restrir isod? Pa rai o’r categorïau hyn sy’n rhoi’r disgrifiad gorau o bob eitem yn eich barn chi?

  • hanfodol
  • dymunol (ddim yn gwbl hanfodol ond byddai’n anodd arnoch chi hebddo)
  • ddim yn hanfodol

Yn amlwg, pan fyddwch chi’n blaenoriaethu gwariant, mae eitemau hanfodol yn dod yn gyntaf, cyn y gwariant dymunol, wedyn y gwariant nad yw’n hanfodol.

Cadwch gofnod o'r categorïau rydych chi wedi’u dewis. Efallai y bydd yn ddifyr edrych yn ôl ar y rhain ar ddiwedd y sesiwn.

Categori Hanfodol, dymunol neu ddim yn hanfodol?
Ffôn symudol
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
iPad/tabled
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Aelodaeth campfa
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Pryd o fwyd allan gyda ffrindiau bob wythnos
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Teledu Sky
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Gwyliau neu daith oddi cartref
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Anrhegion Nadolig i ffrindiau
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Yswiriant i’ch ffôn
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Coffi dyddiol o siop goffi
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Ateb

Mae rhai atebion a argymhellir i'w gweld isod, ond mae dosbarthu eitemau gwariant yn fater personol yn y pen draw.

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn ystyried ffôn symudol yn hanfodol. Gallai yswirio eich ffôn fod yn gost hanfodol hefyd – ond efallai fod hwn yn rhan o’ch yswiriant cynnwys tŷ, neu efallai eich bod chi eisiau neilltuo arian i brynu un newydd os yw’ch un chi’n cael ei golli neu ei ddwyn.

Byddai’r rhan fwyaf o bobl yn ystyried mynd ar daith fer oddi cartref, hyd yn oed os nad yw’n wyliau llawn, yn agos at fod yn hanfodol, ond mae’n debygol bod eich barn yn dibynnu ar a yw’ch incwm yn golygu bod gwyliau’n bosibl.

Bydd y dewisiadau eraill yn amrywio o un person i'r llall yn ddibynnol ar yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw.

Beth yw'r rheswm dros rannu eich gwariant i beth sy’n hanfodol a beth sy’n bwysig i chi, ond ddim yn hanfodol? Gwneir hyn er mwyn i chi allu meddwl yn glir beth sy’n bwysig i chi, a beth gallwch chi ei dynnu o’ch gwariant os nad yw’ch incwm yn ddigon uchel i fforddio popeth yr hoffech chi ei gael.

Pan mae’n rhaid i chi leihau eich gwariant, dechreuwch gyda’r pethau sy’n amlwg ddim yn hanfodol. Wedyn, os oes angen, ewch ati i dargedu’r pethau sydd ddim yn gwbl hanfodol – hyd yn oed os yw’n anodd i chi fynd hebddynt. Weithiau mae rheoli arian yn golygu gwneud penderfyniadau anodd.

Yn sicr, mae'r argyfwng costau byw presennol yn ei gwneud hi’n bwysig deall beth yw'r hanfodion a beth sydd ddim yn hanfodol.

Efallai y bydd rhaid i chi lunio rhywbeth tebyg i hyn:

Categori Hanfodol, dymunol neu ddim yn hanfodol?
Ffôn symudol Hanfodol!
iPad/tabled Ddim yn hanfodol
Aelodaeth campfa Ddim yn hanfodol neu efallai’n ddymunol
Pryd o fwyd allan gyda ffrindiau bob wythnos Ddim yn hanfodol
Teledu Sky Ddim yn hanfodol – ond efallai y bydd pobl sydd wrth eu boddau â chwaraeon a ffilmiau yn anghytuno!
Gwyliau neu daith oddi cartref Dymunol? Efallai y gellid dadlau eu bod yn hanfodol o ystyried yr ymlacio a mwynhau sy’n deillio ohonynt.
Anrhegion Nadolig i ffrindiau Dymunol?
Yswiriant i’ch ffôn Hanfodol? Efallai ddim! Fe wnaethoch chi edrych ar hyn yn Sesiwn 1.
Coffi dyddiol o siop goffi Ddim yn hanfodol neu efallai’n ddymunol.