Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.1 Cyngor ac awgrymiadau da

O’n profiadau fel ymarferwyr ac ymchwilwyr ym maes technoleg addysgol, credwn y gallai’r canllawiau canlynol fod yn ddefnyddiol hefyd wrth ddechrau neu reoli newid:

  • Dechreuwch yn fach a dechreuwch nawr.
    • Y rheswm dros hyn yw y gallech ddechrau meddwl gormod am eich newid arfaethedig wrth i amser fynd heibio, gallai’r amcanion fynd ar goll mewn problemau posibl neu fe allech ddechrau petruso rhwng amryw newidiadau posibl o ran pa un i ganolbwyntio arno gyntaf. Dewiswch rywbeth bach y gallwch ei dreialu a gweld ei ganlyniadau, ac yna ewch ati i’w wneud!
  • Cynlluniwch.
    • Amlinellwch yr holl fanylion. Pa dechneg addysgu ar-lein newydd y byddwch yn rhoi cynnig arni? Gyda pha grŵp o ddysgwyr? Yn ymdrin â pha bwnc? Erbyn pryd y bydd rhaid i chi fod yn barod? Beth fydd eich cynllun wrth gefn i sicrhau bod yr amcanion dysgu’n cael eu bodloni os bydd eich treial yn methu? Sut byddwch yn gwerthuso llwyddiannau a methiannau eich ymgais? (Gweler deunyddiau’r wythnos nesaf i gael rhagor o fanylion am werthuso). Wrth i amser fynd heibio a’ch hyder gynyddu mewn rhoi cynnig ar syniadau addysgu newydd ar-lein, gallwch fod yn fwy hyblyg a llunio cynlluniau llai caeth, ond ar ddechrau eich taith, bydd cynllunio’n gwneud i chi deimlo’n fwy sicr yn eich gweithredoedd.
  • Ceisiwch ganiatâd.
    • Os ydych yn gweithio i ddarparwr addysg, efallai y bydd angen i chi gael cymeradwyaeth ar gyfer eich newid arfaethedig. Treuliwch amser yn paratoi, rhowch yr holl wybodaeth i’r cymeradwywr y gallai fod ei hangen arno, esboniwch y buddion yn ogystal â’r risgiau, a dangoswch eich bod wedi meddwl yn ofalus am y newid a’i fuddion posibl i chi a’ch dysgwyr. Os na roddir caniatâd, mynnwch adborth, ac addaswch eich cynnig cyn ceisio cymeradwyaeth drachefn.
  • Peidiwch â bod yn berffeithydd.
    • Bydd angen gwneud addasiadau wrth gyflwyno unrhyw newidiadau i’ch addysgu. Arsylwch yr hyn sy’n gweithio a’r hyn nad yw’n gweithio, addaswch, a rhowch ail gynnig arni.
  • Myfyriwch yn onest.
    • Myfyriwch ar yr hyn rydych wedi’i ddysgu, myfyriwch ar ôl darllen ymhellach, myfyriwch ar ôl ei drafod gyda myfyrwyr neu gydweithwyr, yna myfyriwch ar ôl rhoi cynnig arno. Ymdrinnir â hyn ymhellach yn neunyddiau’r wythnos nesaf.
  • Cydweithiwch.
    • Rhannwch eich ymgais cychwynnol, a’ch myfyrdodau arno, gyda chydweithwyr neu rwydweithiau. Fe allent sylwi ar addasiadau ychwanegol y gallwch eu gwneud, a byddant mewn sefyllfa well i nodi’n wrthrychol yr elfennau cadarnhaol o newid na fu’n llwyddiannus yn eich barn chi.
  • Gwrandewch ar eich dysgwyr.
    • Gofynnwch am argraff y dysgwyr o’r hyn y rhoddoch gynnig arno. Yn aml, byddant yn gweld elfennau cadarnhaol ‘rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol’ hyd yn oed os na weithiodd fel y gobeithioch.
  • Dysgwch o fethiannau.
    • Mae rhai newidiadau’n gweithio, ond nid eraill. Weithiau mae’r dechnoleg yn methu, weithiau nid yw’r addysgeg yn briodol, weithiau mae ffactorau allanol yn dylanwadu. Ond peidiwch â gadael i’r ffaith bod rhywbeth wedi mynd o chwith leihau eich brwdfrydedd a’ch chwilfrydedd ynglŷn ag addysgu ar-lein. Yn lle hynny, meddyliwch am yr hyn rydych wedi’i ddysgu a sut y bydd hynny’n gwneud eich camau nesaf yn well.
  • Dathlwch lwyddiant.
    • Gallai’r newid fod yn un bach, ond os yw’n gweithio, gadewch i’ch hun fwynhau’r llwyddiant. Rhannwch eich stori gyda chydweithwyr a’ch rhwydweithiau. Ychwanegwch at eich llwyddiant i roi cynnig ar rywbeth arall neu ailadrodd y newid cyntaf mewn cyd-destun gwahanol.

Os ydych yn dal i gael trafferth penderfynu ar yr union gamau i’w cymryd i ddechrau’ch taith addysgu ar-lein, gallai’r erthygl hon [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] gan Sharrar a Bigatel (2014) gynnig rhai awgrymiadau defnyddiol.