Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4 Dadansoddi eich ymarfer a’r cwmpas ar gyfer newid

Nawr, mae’n bryd canolbwyntio ar eich ymarfer eich hun.

Gweithgaredd 3 Dadansoddi newid mewn arferion addysgu

Timing: Caniatewch oddeutu 60 munud
  1. Meddyliwch am yr arferion addysgu rydych yn gyfarwydd â nhw (h.y. nid eich ymarfer eich hun yn unig) yn eich sefydliad yn ystod y pump i ddeng mlynedd diwethaf.
  2. Gwnewch rai nodiadau wrth ymateb i’r cwestiynau canlynol:
    • a.Sut mae’r ymarfer dysgu wedi newid, yn eich barn chi?
    • b.Pa mor arwyddocaol fu’r newidiadau?
    • c.Pa ddatblygiadau technolegol fu’r rhai pwysicaf, yn eich barn chi? Pam?

ch. Pa agweddau ar ymarfer nad yw technoleg wedi cael effaith fawr arnynt? Pam?

  1. Nawr, ystyriwch eich ymarfer eich hun, mewn perthynas â’r arferion addysgu cyffredinol y meddylioch amdanynt yng nghwestiynau 1 a 2 uchod. Sut mae’ch ymarfer wedi newid? Pa ddatblygiadau technolegol fu’r rhai pwysicaf?
  2. Yn olaf, meddyliwch am yr hyn rydych eisiau ei newid yn eich ymarfer addysgu eich hun mewn perthynas ag addysgu ar-lein (cyfeiriwch at eich nodiadau perthnasol o’r wythnosau blaenorol). Sut bydd technoleg yn chwarae rôl yn eich addysgu ar-lein yn y dyfodol agos? Pa ddatblygiadau technolegol fyddech chi’n dymuno iddynt ddigwydd i gefnogi’ch addysgu ar-lein fwy fyth?
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Discussion

Wrth i ni nesáu at wythnos olaf y cwrs hwn, fe ddylai eich cynlluniau ar gyfer addysgu ar-lein fod yn dechrau dod yn fanylach. Dylai’r cwestiynau yn y gweithgaredd hwn eich helpu i gynnwys technolegau yn eich cynlluniau yn briodol. Diwedd y Gweithgaredd