Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Sut i gael bathodyn

Mae’n syml! Dyma beth mae angen i chi ei wneud:

  • darllen pob wythnos o’r cwrs
  • sgorio 50% neu fwy yn y ddau gwis bathodyn yn Wythnos 4 ac Wythnos 8.

O ran yr holl gwisiau, gallwch roi cynnig ar y rhan fwyaf o’r cwestiynau deirgwaith (ond dim ond un ymgais a gewch fel arfer ar gyfer cwestiynau gwir neu anwir). Os byddwch yn cael yr ateb yn iawn y tro cyntaf, cewch fwy o farciau nag ar gyfer ateb cywir yr eildro neu’r trydydd tro. Os bydd un o’ch atebion yn anghywir, yn aml fe gewch adborth defnyddiol ac awgrymiadau ynglŷn â sut i gael yr ateb cywir.

O ran y cwisiau bathodyn, os na fyddwch yn llwyddo i gael 50% y tro cyntaf, ar ôl 24 awr gallwch roi cynnig ar y cwis cyfan, a dychwelyd cynifer o weithiau ag y dymunwch

Gobeithiwn y bydd cynifer o bobl â phosibl yn ennill bathodyn y Brifysgol Agored – felly dylech ystyried ennill bathodyn yn gyfle i fyfyrio ar yr hyn rydych wedi’i ddysgu yn hytrach na phrawf.

Os oes arnoch angen mwy o arweiniad ar ennill bathodyn a’r hyn y gallwch ei wneud ag ef, darllenwch Gwestiynau Cyffredin OpenLearn [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] . Pan fyddwch yn ennill eich bathodyn, byddwch yn cael neges e-bost i roi gwybod i chi a gallwch weld a rheoli eich holl fathodynnau yn My OpenLearn o fewn 24 awr o gwblhau’r meini prawf i ennill bathodyn.

Dechreuwch arni gydag Wythnos 1.