Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.2 Defnyddio cyfleoedd addysgu ar-lein cydamserol ac anghydamserol

Drwy gydol y cwrs hwn, fe’ch cyflwynir i bapurau ymchwil yn ymwneud â’r pynciau a drafodir. Mae’r papur cyntaf o’r fath, gan Murphy, Rodriguez-Manzanares a Barbour (2011), yn adrodd ar gyfweliadau â 42 o athrawon addysg o bell o ysgolion uwchradd yng Nghanada ynglŷn â’u barn am weithgareddau addysgu ar-lein cydamserol ac anghydamserol. Dyma ganfyddiadau’r awduron:

  • Roedd yr athrawon yn defnyddio gwahanol gyfuniadau o addysgu ar-lein cydamserol ac anghydamserol. Roedd rhai’n addysgu’n anghydamserol yn gyfan gwbl. Roedd eraill yn cyfuno addysgu anghydamserol â dulliau cydamserol, fel dosbarthiadau wedi’u trefnu neu amserau pan fyddent ar gael i diwtora ac ymateb i fyfyrwyr.
  • Roedd yr holl rai a gyfwelwyd yn defnyddio addysgu ar-lein anghydamserol i ryw raddau, fel darparu deunyddiau dysgu i fyfyrwyr weithio trwyddynt yn eu hamser eu hunain, defnyddio cwisiau ar-lein, neu gynorthwyo myfyrwyr i ofyn cwestiwn trwy e-bost neu fforymau a chael ymateb yn ddiweddarach.
  • Awgrymodd yr athrawon fod llawer o fyfyrwyr yn ffafrio dulliau cyfathrebu anghydamserol a thestun. Awgrymodd un ei bod yn anarferol i fyfyrwyr ofyn am sgwrs lafar yn hytrach na chyfathrebu trwy destun, a dywedodd un arall y gallai myfyrwyr anfon neges e-bost i ofyn sawl cwestiwn ac yna gallai’r athro/athrawes dreulio rhywfaint o amser yn llunio ymateb.
  • Roedd manteision canfyddedig yn gysylltiedig â dulliau cyfathrebu cydamserol hefyd. Roedd rhai athrawon o’r farn mai’r ffordd orau o fynd i’r afael â phroblem neu ymholiad penodol a godwyd gan fyfyriwr oedd trwy fideogynadledda neu ddefnyddio bwrdd gwyn ar-lein a rennir. Teimlwyd hefyd y gallai cyfleoedd ar gyfer addysgu ar-lein cydamserol helpu’r myfyrwyr i deimlo’n llai ynysig, oherwydd gallent gynnwys amser ar gyfer cymdeithasu a thrafod yn anffurfiol.

Gweithgaredd 1 Meddwl am addysgu ar-lein cydamserol ac anghydamserol

Timing: Caniatewch oddeutu 10 munud

Ar ôl darllen yr adran hon a gwylio’r fideo a wnaeth Sarah S. am ei phrofiadau, meddyliwch am y modd y gellid cymhwyso moddau cydamserol ac anghydamserol o addysgu ar-lein i’ch gwaith.

Ceisiwch feddwl am dair enghraifft fer sy’n gweddu i’r sefyllfaoedd canlynol. Gallai’r rhain fod yn seiliedig ar eich profiadau’ch hun o addysgu neu ddysgu, neu sefyllfa y gallwch ei dychmygu:

  1. Sefyllfa lle mae dysgu cydamserol yn briodol a buddiol i gefnogi dysgu.
  2. Sefyllfa lle mae dysgu anghydamserol yn briodol a buddiol i gefnogi dysgu.
  3. Sefyllfa sy’n cyfuno dysgu cydamserol ac anghydamserol i gefnogi dysgu.
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Trafodaeth

Mae’r gweithgaredd hwn wedi’i gynllunio i’ch helpu i ddechrau meddwl am addysgu ar-lein yn eich cyd-destun eich hun. Un o’r ystyriaethau cyntaf un wrth fynd ag addysgu ar-lein yw penderfynu pa elfennau sy’n addas i ddysgu cydamserol, dysgu anghydamserol, neu’r naill a’r llall.

Cynhaliwyd yr astudiaeth gan Murphy, Rodriguez-Manzanares a Barbour (2011) mewn cyd-destun penodol: Addysg uwchradd o bell. Gallai rhai o’r canfyddiadau fod yn berthnasol i chi, ond efallai na fyddant yn berthnasol yn gyffredinol i bob myfyriwr ar bob cwrs.

Fe allai fod yn ddefnyddiol meddwl am y materion ymarferol, y dewisiadau, a’r buddion yn eich achos penodol chi. Er enghraifft, fe allai fod rhesymau ymarferol da iawn dros ddefnyddio dull anghydamserol gyda’ch myfyrwyr, fel y disgwyliadau y bydd dysgwyr yn ymgysylltu ar adegau gwahanol. Ond efallai y bydd dull cyfarwyddo cydamserol yn fuddiol oherwydd ei fod yn cynnig cyfle mwy uniongyrchol i ddeall a mynd i’r afael ag ymholiadau. Gallai dewisiadau’r myfyrwyr amrywio a gellid ceisio eu barn os oes ansicrwydd ynglŷn â’r dull gorau. Gallai rhai myfyrwyr hoffi’r ffordd y mae trafodaeth gydamserol yn caniatáu i chi greu ymdeimlad o gymuned ac ymgysylltiad. Gallai eraill ffafrio cyflymder arafach gweithgaredd anghydamserol lle y gallant lunio cwestiwn neu ymateb yn eu hamser eu hunain a myfyrio arno cyn ei rannu ag eraill.

Mae’n aml yn synhwyrol defnyddio’r ddau fath o addysgu i ddarparu ystod o brofiadau a chyfleoedd ar gyfer dysgu.