Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2 Dysgu cyfunol

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 5 Mae llawer o agweddau i ddysgu ar-lein

Yn flaenorol, gwnaethom gyflwyno’r gwahaniaethau rhwng addysgu anghydamserol a chydamserol. Cysyniad arall a allai fod yn ddefnyddiol iawn i’ch helpu i ddeall sut i addysgu ar-lein yw dysgu cyfunol. Mae dysgu cyfunol fel arfer yn cyfeirio at gwrs sy’n cynnwys elfennau ar-lein ac wyneb yn wyneb.

Fel arfer, bydd dull cyfunol yn dwyn ynghyd tair elfen graidd: gweithgareddau ystafell ddosbarth lle mae’r athro/athrawes yn bresennol; deunyddiau dysgu ar-lein (y gellir eu defnyddio mewn gwahanol ffyrdd – fel y gwelwch yn yr adran ar ‘ddysgu gwrthdro’); astudio annibynnol gan ddefnyddio deunyddiau a ddarparwyd gan yr athro/athrawes, naill ai ar-lein neu ar ffurf copi caled, i atgyfnerthu cysyniadau neu ddatblygu sgiliau. Mae’r cyfuniad hwn o weithgareddau’n golygu bod gan yr athro/athrawes gyfuniad o rolau hefyd, gan ychwanegu elfen ‘hwylusydd’ at ei rôl wrth iddo/iddi drefnu a chyfarwyddo gweithgareddau grŵp, ar-lein ac all-lein.

Gall dysgu cyfunol helpu i ddwyn ynghyd prif fanteision dysgu cydamserol:

  • presenoldeb yr athro/athrawes
  • adborth uniongyrchol
  • rhyngweithio â chymheiriaid.

Gall gyfuno’r rhain â phrif fanteision dysgu anghydamserol:

  • annibyniaeth
  • hyblygrwydd
  • pennu’ch cyflymder eich hun.

Gall helpu i osgoi meini tramgwydd dysgu anghydamserol:

  • ynysu dysgwyr
  • diffyg cymhelliad.