Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.1 Crëwch amserlen

Yn yr amgylchedd addysgu wyneb yn wyneb, nid yw’r athro/athrawes ar gael i ddysgwyr bob awr o’r dydd a’r nos, bob diwrnod o’r wythnos. Wrth symud i amgylchedd dysgu ar-lein anghydamserol, mae’n demtasiwn i fyfyrwyr ddisgwyl y dylai’r athro/athrawes fod ar gael bob amser. A chithau’n athro/athrawes, bydd angen i chi bennu amserlen ar gyfer pryd y byddwch ar gael i’r dysgwyr, a phryd na fyddwch ar gael iddynt. Os bydd arnynt angen cymorth cydamserol, gellir trefnu tiwtorialau galw heibio. Fel arall, cytunwch y byddwch yn ymateb i negeseuon o fewn cyfnod penodol. Yn y modd hwnnw, os bydd dysgwr yn cysylltu â chi ar ôl awr benodol gyda’r nos, bydd yn gwybod na ddylai ddisgwyl ymateb tan y bore wedyn. Yn yr un modd, rhowch amserlen ddisgwyliadau i’r dysgwyr – dywedwch wrthynt erbyn pryd yr ydych yn credu y dylent fod wedi cyrraedd pob carreg filltir yn y cwrs a chysylltwch â myfyrwyr pan fyddant yn methu terfynau amser craidd. Dylai hyn helpu’r dysgwyr hynny sy’n llai abl i’w cymell eu hunain i symud ymlaen trwy’r cwrs i aros ar y trywydd iawn.