Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.3 Lluniadaeth

Described image
Ffigur 3 Rhai o’r damcaniaethau dysgu sy’n gysylltiedig ag addysg

Mae lluniadaeth yn ymwneud â sut mae gwybodaeth yn cael ei llunio. Prif hyrwyddwyr lluniadaeth oedd Piaget (1957) a Vygotsky (1986). Roedd Piaget yn ymddiddori mewn sut mae gwybodaeth yn cael ei llunio gan yr unigolyn ac, yn arbennig, sut mae plant yn symud trwy sawl cam gwahanol iawn o ddatblygiad o ran llunio gwybodaeth. Fodd bynnag, roedd Vygotsky yn ymddiddori mwy mewn sut mae lluniadaeth gymdeithasol gwybodaeth yn chwarae rôl bwysig yn y broses hon. O ran addysgu ar-lein, un o’r syniadau pwysig o waith Vygotsky yw’r ‘parth datblygiad procsimol’. Yn fyr, mae hyn yn awgrymu bod dysgwyr yn datblygu orau os cyflwynir tasgau iddynt yn barhaus sydd ychydig y tu hwnt (h.y. yn brocsimol) i’w parth gallu neu ddatblygiad presennol. Os yw tasgau dysgu’n rhy syml dro ar ôl tro, bydd y dysgwr yn diflasu’n gyflym ac fe allai ymddieithrio o’r cwrs. Os yw’r tasgau’n rhy ddatblygiedig, gellir colli brwdfrydedd, bydd rhwystredigaeth yn cynyddu ac, unwaith eto, gallai’r dysgwr golli diddordeb. Awgrymodd Vygotsky mai’r tasgau yn y parth datblygiad procsimol hwnnw yw’r rhai y gall y rhan fwyaf o ddysgwyr eu cyflawni gydag ychydig o gymorth yn unig – ac, wrth gwrs, dyna ble mae rôl yr athro/athrawes ar-lein yn allweddol. Mae rhai o’r ffyrdd y gall athro/athrawes gynnig cymorth a her yn wahanol i’r rhai a ddefnyddir mewn senario addysgu wyneb yn wyneb, fel y bydd y cwrs hwn yn ei esbonio.