Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.1 Rheoli cwrs

Fel arfer, mae cyrsiau ar-lein, a chyrsiau sy’n cynnwys unrhyw elfen ar-lein, yn cael eu cyflwyno gan ddefnyddio platfform lletya, y cyfeirir ato’n gyffredin fel System Rheoli Dysgu (LMS) neu Amgylchedd Dysgu Rhithwir (VLE). Mae’r systemau hyn yn cynorthwyo athrawon i gyflwyno deunyddiau i’r dysgwr, cadw llygad ar fyfyrwyr cofrestredig, a chefnogi tasgau eraill fel asesu a chyfathrebu. Fel arfer, ni fydd athrawon sy’n gweithio mewn prifysgolion, colegau neu ysgolion traddodiadol yn gallu cyfrannu llawer at y broses ddethol pan fydd y sefydliad yn buddsoddi yn un o’r cynhyrchion hyn (mae angen buddsoddi mewn systemau LMS ‘rhad ac am ddim’ fel Moodle hefyd, o ran addasu a chynnal y cynnyrch). Fel arfer, rôl yr athro/athrawes yw canfod pa bosibiliadau sy’n bodoli i addysgu ar-lein gan ddefnyddio’r cynnyrch, a defnyddio’r elfennau sy’n ymddangos yn fwyaf cynhyrchiol yn eu cyd-destun unigol. Yn aml, gellir cynnwys amrywiaeth o adnoddau, fel blogiau a wikis, cwisiau a phrosesau asesu awtomataidd, mannau ar gyfer gweithgareddau dysgu cydamserol ac anghydamserol, a storfeydd ar gyfer gwrthrychau dysgu. Byddwch yn dysgu mwy am y ffyrdd y gellir defnyddio adnoddau LMS wrth addysgu yr wythnos nesaf.