Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.2 Adnoddau creu cynnwys

Mae dysgu ar-lein yn cynnig y potensial i ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau o fewn deunyddiau dysgu ar-lein a defnyddio adnoddau creu cynnwys i’w casglu at ei gilydd i greu profiad dysgu cydlynol. Yn ogystal â darparu ffyrdd diddorol o ddefnyddio cyfryngau sain a fideo wrth addysgu, mae adnoddau ar-lein ar gael i gynhyrchu graffiau a ffeithluniau, animeiddiadau, byrddau stori, a mwy. Rôl yr athro/athrawes mewn perthynas ag adnoddau fel y rhain yw pori a threialu ystod o feddalwedd i ddarganfod pa fathau fyddai’n helpu i roi bywyd i’w haddysgu ar-lein gydag amrywiaeth o gyfryngau a fformatau cyflwyno. Mae Wythnos 3 y cwrs yn rhoi rhywfaint o arweiniad ar y broses hon. Pan fydd gennych syniad ynglŷn â beth rydych eisiau ei greu, bydd angen i chi adnabod sut gall yr allbynnau y byddwch yn eu creu gyda’r adnoddau creu cynnwys hyn gael eu hintegreiddio â’r system rheoli cwrs i greu profiad dysgu ar-lein dynamig a diddorol.

Yn ogystal, fe allech ddylunio’ch deunyddiau i alluogi dysgwyr i ddefnyddio’r adnoddau hyn yn eu gwaith ar-lein. Yn ôl Beetham (2007):

‘Gellir rhannu rhaglenni, hyd yn oed, i allu creu cynrychiolaethau ar y cyd, fel sy’n digwydd wyneb yn wyneb gyda byrddau gwyn electronig, a chyda wicis ar-lein. Gellir defnyddio cynrychiolaethau dysgwyr ar gyfer asesu, wrth gwrs, ond gellir hefyd eu hailintegreiddio i’r sefyllfa ddysgu ar gyfer myfyrio ac adolygu gan gymheiriaid, neu hyd yn oed fel deunyddiau dysgu ar gyfer carfanau yn y dyfodol.’

(Beetham, 2007, tud. 35)