Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.4 Gwella adnoddau a deunyddiau rydych eisoes yn eu defnyddio

Bydd llawer o athrawon yn gyfarwydd â chreu dogfennau Word a chyflwyniadau PowerPoint. Gall deunyddiau yn y ddau fformat gael eu haddasu ar gyfer yr amgylchedd ar-lein. Maen nhw’n enghraifft glasurol o’r ‘categori disodli’ yn y model SAMR (Puentedura, 2017), lle mae athrawon yn symud ar-lein yr un dulliau a ddefnyddion nhw yn yr amgylchedd wyneb yn wyneb. Fodd bynnag, gydag ychydig mwy o waith, gall dogfennau sefydlog sy’n cynnwys testun a delweddau gael eu troi’n adnoddau archwilio ar-lein, gan gysylltu â gwefannau, animeiddiadau, fideos, blogiau, ac yn y blaen, i gyfoethogi’r profiad dysgu. Yna, gall y ffeiliau Word a PowerPoint hyn sydd wedi’u gwella gael eu hintegreiddio â deunyddiau eraill gan ddefnyddio adnoddau creu cynnwys, neu gael eu gosod o fewn system rheoli cwrs, er enghraifft.