Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4 Gwrthrychau dysgu

Mae rhwydweithiau ac adnoddau digidol yn cefnogi rhannu ac atgynhyrchu cynnwys heb fawr o ymdrech. Yn wahanol i wrthrych ffisegol fel llyfr argraffedig, gall gwrthrych digidol gael ei gopïo, ei rannu, ei olygu, a’i ailrannu heb unrhyw effaith ar y gwrthrych gwreiddiol. Mae llawer o addysgwyr wedi archwilio sut gallem gael ein cefnogi i greu a defnyddio gwrthrychau digidol mewn ffyrdd gwahanol i’r gwrthrychau ffisegol hynny. Dros amser, mae hyn wedi arwain at ddatblygu sawl cysyniad y dechreuwn eu cyflwyno yma, ac y dychwelwn atynt yn ddyfnach yn ddiweddarach yn y cwrs.

Mae’r syniad o wrthrych dysgu yn awgrymu bod modd i unedau dysgu digidol bach, hunangynhwysol gael eu creu ac yna eu cyfuno, eu hailddefnyddio neu eu haddasu i’w defnyddio droeon. Pan ddechreuodd y rhain ddod i’r amlwg, defnyddiwyd y term Gwrthrychau Dysgu y gellir eu Hailddefnyddio (RLOs) i’w disgrifio. Y rheswm am hyn oedd oherwydd dadleuwyd pan fyddai gwrthrych dysgu’n cael ei rannu, y dylai gael ei greu mewn ffordd sy’n helpu addysgwr neu ddysgwr arall i’w ddefnyddio ei hun.

Yn ddiweddar, rydych yn fwy tebygol o weld y term Adnoddau Addysgol Agored (OERs) yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio cynnwys sy’n cael ei rannu gan addysgwyr. Mae OER wedi dod yn gysyniad mwy poblogaidd a ddeëllir yn eang ymhlith addysgwyr ar draws y byd nag RLO. Mae OER yn esblygiad o’r syniad o RLO yn rhannol, ond nid yw’r ddau derm yn golygu’r un peth yn union. Yn gyntaf, mae RLOs, yn ôl eu diffiniad, wedi’u dylunio i allu cael eu rhannu, ond gallai OERs fod yn ddeunyddiau addysgu y mae’r awdur yn ystyried y gellir eu rhannu ond nad ydynt wedi dilyn ymagwedd benodol sy’n cynorthwyo addysgwyr eraill i’w hailddefnyddio. Yr hyn y mae OERs yn ei ddarparu, yn ôl eu diffiniad, yw trwydded sy’n egluro bod darpariaeth gyfreithiol i’w hailddefnyddio gan eraill yn unol â rheolau penodol. Nid oes gan RLOs y trwyddedau hyn o reidrwydd, er y dylent feddu arnynt i fod yn wirioneddol ailddefnyddiadwy.

Gall natur gwrthrychau dysgu amrywio o becynnau amlgyfrwng sy’n cynnwys elfennau sain a/neu fideo, i dasgau unigol a gyflwynir mewn dogfennau testun neu sioe sleidiau, gydag amrywiadau ac amrywiaethau di-rif yn y canol. Rôl yr athro/athrawes, o bosibl, fydd creu neu gyfrannu at greu gwrthrychau dysgu, neu efallai defnyddio gwrthrychau dysgu a gynhyrchwyd gan dimau eraill yn y sefydliad i ddarparu profiad dysgu ar-lein, trwy gyfrwng gweithgareddau anghydamserol a chydamserol. Mae storfeydd RLOs yn bodoli ar y rhyngrwyd, sy’n golygu y gallai dysgwyr anturus ddod ar eu traws a’u defnyddio i wella eu dysgu y tu allan i’r deunyddiau a roddwyd ar gyfer y cwrs. Mae enghreifftiau o’r storfeydd hyn yn cynnwys Wisc-Online [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] , a MERLOT, y mae eu cynnwys RLO yn OERs hefyd.

Gweithgaredd 3 Gwrthrychau dysgu a’ch addysgu eich hun

Timing: Caniatewch oddeutu 15 munud

Gwyliwch y fideo hwn, ‘Dysgu gwrthrychau’ ac wedyn nodwch dri gwrthrych dysgu posibl y gellid eu creu o’r deunyddiau rydych chi wedi eu defnyddio yn eich addysgu neu’ch dysgu’ch hun, a’u cofnodi. Ystyriwch p’un a allai’r rhain gael eu hailddefnyddio’n llwyddiannus gan bobl eraill ar-lein, a pha ychwanegiadau neu addasiadau, os o gwbl, fyddai angen eu gwneud er mwyn iddynt fod yn amcanion dysgu defnyddiol.

Gadael sylw

Dylai’r gweithgaredd hwn eich helpu i ddechrau meddwl am yr adnoddau rydych eisoes yn eu defnyddio, a sut gallent weithio wrth addysgu ar-lein. Os gwnaethoch chi gwblhau’r ymarfer hwn yn gyflym, fe allai fod yn ddefnyddiol i chi gynnal archwiliad byr o’r holl wrthrychau dysgu rydych yn eu defnyddio ar hyn o bryd, fel y gallech ystyried addasu unrhyw rai ohonynt, neu bob un, wrth addysgu ar-lein yn y dyfodol.

Cynigiodd Churchill (2007) deipoleg a allai fod yn ddefnyddiol wrth feddwl am yr amrywiaeth o wrthrychau dysgu a’u dibenion:

  • Gwrthrych cyflwyno: Adnoddau hyfforddi uniongyrchol i gyfleu deunydd pwnc penodol.
  • Gwrthrych ymarfer: Ailadrodd ymarfer gydag adborth, gêm addysgol neu gynrychiolaeth sy’n caniatáu ar gyfer ymarfer a dysgu gweithdrefnau.
  • Gwrthrych efelychu: Cynrychiolaeth o system neu broses benodol o fywyd go iawn.
  • Model cysyniadol: Cynrychiolaeth o gysyniad allweddol neu gysyniadau cysylltiedig yn ymwneud â phwnc.
  • Gwrthrych gwybodaeth: Arddangos gwybodaeth wedi’i threfnu a’i harddangos gyda moddolrwydd.
  • Cynrychiolaeth gyd-destunol: Arddangos data wrth iddo ddod i’r amlwg o senario dilys sy’n cael ei gynrychioli.

Mae hon yn adeg dda i chi ddatblygu’ch cynlluniau eich hun ar gyfer addysgu ar-lein. Bob wythnos, byddwch yn ychwanegu at y nodiadau hyn hyd nes y bydd gennych gynllun gweithredu cynhwysfawr.

Gweithgaredd 4 Cynnwys gwrthrychau dysgu yn eich cynlluniau ar gyfer addysgu ar-lein

Timing: Caniatewch oddeutu 60 munud
  1. Yr wythnos ddiwethaf, yng Ngweithgaredd 4, gofynnwyd i chi ba fath o addysgu y gallech ddymuno ei gyflwyno ar-lein, pwy y byddech yn ei gyflwyno iddo, a pha ddeunyddiau y gallech eu haddasu. Adolygwch eich nodiadau ar yr hyn rydych eisiau ei ddarparu ar-lein. Os gwnaethoch chi deipio’ch nodiadau yn y blwch yn Wythnos 1, byddant yn ymddangos yn awtomatig o dan y rhestr hon.
  2. Nawr, dychwelwch i’r hyn a ddysgwyd yr wythnos hon. Pa fathau o wrthrychau dysgu y gallech eu datblygu neu eu hailddefnyddio i gyflawni’ch amcanion?
  3. Nesaf, gan adolygu Adran 1 o’r wythnos hon, ystyriwch sut gallech greu neu integreiddio’ch gwrthrychau dysgu mewn ffordd sy’n ystyried ‘egwyddorion addysgu ar-lein effeithiol’.
  4. Yn olaf, ystyriwch ba adnoddau y gallai fod arnoch eu hangen i greu profiad dysgu effeithiol gan ddefnyddio’r gwrthrychau hyn. Ar hyn o bryd, efallai na fyddwch yn gwybod enwau’r adnoddau perthnasol. Peidiwch â phoeni – ysgrifennwch rywbeth fel ‘adnodd a fydd yn caniatáu i mi…’ a pharhewch y frawddeg trwy nodi gweithred benodol fel ‘cyfuno fideo â darnau o destun’ neu ‘roi cwis amlddewis i’m dysgwyr’.

Yn yr un modd â Gweithgaredd 4 o Wythnos 1, cadwch eich ymatebion mewn man diogel, oherwydd byddwch yn ychwanegu atynt yn ddiweddarach yn y cwrs.

Gadael sylw

Yma, rydych yn ychwanegu at eich ymatebion o’r wythnos ddiwethaf, i symud eich cynllun ar gyfer addysgu ar-lein gam arall ymlaen. Mae’n bwysig eich bod yn ystyried nid yn unig y gwrthrychau dysgu y gallech ddymuno eu hailddefnyddio, ond hefyd sut gallech eu defnyddio, yn addysgegol (rhan 3 y gweithgaredd) ac o ran sut gallai’r dechnoleg eich helpu i’w cyflwyno (rhan 4).