Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Wythnos 2: Darganfod y cysylltiadau: egwyddorion a damcaniaethau ar gyfer deall offer digidol

Cyflwyniad

Sut mae dechrau addysgu ar-lein? Yr wythnos hon, byddwn yn edrych ar rai egwyddorion sy’n sail i addysgu ar-lein effeithiol, a sut gall damcaniaethau dysgu lywio dulliau addysgu. Wedyn, fe’ch cyflwynir i gategoreiddiad o’r technolegau a ddefnyddir wrth addysgu ar-lein. Yn olaf, fe’ch cyflwynir i fyd gwrthrychau dysgu. Trwy ddwyn hyn i gyd at ei gilydd, fe ddylech allu dechrau cynllunio’r hyn rydych eisiau ei gyflawni trwy addysgu ar-lein.

Myfyrdodau’r athro/athrawes

Yr wythnos hon, mae gennym ni glip gan Leanne, sy’n dweud wrthym am rai o’r offer a’r cysyniadau mae hi wedi eu gweld yn ddefnyddiol yn ei haddysgu. Gallwch wylio'r fideo [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]   hwn yn Saesneg. Neu fel arall, gallwch ddarllen y trawsgrifiad hwn yn Gymraeg.

Erbyn diwedd yr wythnos hon, dylech chi allu:

  • deall rhai o egwyddorion hanfodol addysgu ar-lein
  • bod yn ymwybodol o rai damcaniaethau dysgu allweddol a dosbarthiadau o dechnolegau addysgu ar-lein
  • deall cysyniad gwrthrychau dysgu a rhai o’u gwahanol ddosbarthiadau.