1 Technolegau ar gyfer creu cynnwys
Mae’n amhosibl sôn am yr holl dechnolegau y gellid eu defnyddio i greu cynnwys gan fod cynifer ohonynt ar gael. Mae adnoddau newydd yn cael eu cynhyrchu’n rheolaidd, ac mae rhai hŷn yn diflannu, felly fe all fod yn anodd rhoi enghreifftiau penodol gan fod adnoddau’n gallu dyddio’n gyflym iawn. Fan hyn, rydym wedi rhoi trosolwg o’r mathau o adnoddau sydd ar gael ac arweiniad byr ar y pethau y dylech fod yn ymwybodol ohonynt wrth eu defnyddio.