Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.1 Addasu ac ymestyn cyflwyniadau sleidiau

Yr wythnos ddiwethaf, fe sonion ni am y syniad o addasu deunyddiau dysgu presennol gyda rhai gwelliannau. Mae adnoddau cyflwyno fel PowerPoint yn cynnwys nodweddion ar gyfer cyflawni gwelliant o’r fath, er enghraifft trwy ychwanegu adroddiad llafar at sioe sleidiau, neu ychwanegu clipiau sain at sleidiau unigol. Gall y nodweddion hyn eich galluogi i addasu eich sioe sleidiau ystafell ddosbarth neu gydamserol ar gyfer cynulleidfa ar-lein anghydamserol, gan ganiatáu i’r gynulleidfa honno elwa o’ch ychwanegiad llafar heb fod angen i chi fod yno. Un o fanteision ychwanegu clipiau sain unigol at bob sleid yw bod y dysgwr yn gallu dewis pryd i ddechrau gwrando – er enghraifft, fe allai ddymuno darllen cynnwys y sleid yn gyntaf. Yn yr un modd, gall myfyriwr â nam ar y golwg sy’n defnyddio rhaglen darllen sgrin wrando ar y testun sy’n cael ei ddarllen yn uchel cyn dewis y clip sain. Mewn cyferbyniad, mae un ffeil adroddiad llafar ar draws y sioe sleidiau gyfan yn gorfodi’r dysgwr i oedi’r adroddiad os na all ddarllen a gwrando ar bopeth o fewn yr amser a ganiatewch cyn symud ymlaen, a bydd defnyddiwr rhaglen darllen sgrin yn clywed y testun sy’n cael ei ddarllen yn uchel gan ei dechnoleg gynorthwyol ar yr un pryd â’ch adroddiad llafar, a all fod yn ddryslyd iawn. Os ydych chi eisiau rhannu eich cyflwyniadau ar-lein, fe allai fod yn fwy priodol ystyried gwasanaethau penodol ar gyfer hyn, fel Slideshare.

Awgrym da

Defnyddiwch ficroffon o ansawdd da i sicrhau bod y sain yn glir. Nid yw’r rhain yn ddrud fel arfer, ond bydd yn werth chweil i athro/athrawes ar-lein fuddsoddi mewn un oherwydd y gwelliant mewn ansawdd allbwn.