Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.1 Gwasanaethu cynulleidfaoedd amrywiol

Mae’n werth chweil dylunio deunyddiau a defnyddio technolegau gydag ystod mor eang â phosibl o ddefnyddwyr mewn golwg. Trwy wneud hyn, bydd eich deunyddiau’n barod i’w hailddefnyddio mewn blynyddoedd diweddarach neu gyd-destunau gwahanol. Mae’r adran hon yn rhoi rhai pwyntiau cyffredinol, fel y gallwch ddechrau meddwl am sut y byddai’r ystyriaethau hyn yn cael eu cymhwyso i’ch cyd-destun chi wrth newid i addysgu ar-lein. Byddwn yn ymdrin â’r maes hwn yn fanylach yn ystod Wythnos 6.

Cyfarwyddiadau

Weithiau, mae dylunio a darparu deunyddiau ar gyfer ystod eang o anghenion cynulleidfa yn golygu gwella eglurder, yn syml. Gwnewch yn siŵr fod eich cyfarwyddiadau’n glir ac yn ddiamwys (defnyddiwch dermau fel Unedau, Tudalennau, Wythnosau, Adrannau, ac yn y blaen, yn gyson) (Ernest et al., 2013). Os ydych yn creu deunydd sain neu glyweledol, gwnewch yn siŵr eich bod yn siarad yn araf ac yn glir, a chymerwch saib bob hyn a hyn i ganiatáu i’r gynulleidfa ystyried brawddegau neu ymadroddion allweddol.

Cyfeiriadau diwylliannol

Cofiwch efallai na fydd eich holl ddysgwyr yn rhannu’r un cefndir diwylliannol, felly byddwch yn ofalus wrth ddefnyddio idiomau neu gyfeiriadau diwylliannol mewn deunyddiau addysgu (Arbour et al., 2015). Efallai hefyd y bydd angen i chi ystyried eich dewis o ddelweddau er mwyn adlewyrchu amrywiaeth yn llawn.

Amserlen hyblyg

Er ei bod yn hollbwysig rhoi amserlen o ddyddiadau a therfynau amser allweddol yn y cwrs i’r myfyrwyr, a sicrhau’n rheolaidd eu bod yn ymwybodol o beth sydd yn union o’u blaen, gallwch hefyd gynnwys hyblygrwydd yn y dyluniad, lle y bo’n bosibl. Os nad oes angen i bob dysgwr gwblhau tasg benodol ar yr un pryd, rhowch ychydig mwy o amser i’r rhai y mae arnynt ei angen. Efallai y bydd angen i rai dysgwyr gael sylw unigol gan yr athro/athrawes i gadw at yr amserlen gyffredinol – mae hyn yn elfen arall o bersonoli (Ernest et al., 2013).

Hyrwyddo cyfathrebu a chymorth gan gymheiriaid

Dylid annog dysgwyr ar-lein i wneud sylwadau a myfyrio ar y dysgu. Gallent wneud hyn yn eu mannau eu hunain, fel blogiau, neu mewn mannau mwy ‘cyhoeddus’, fel fforymau trafod. Mae fforymau anghydamserol yn rhoi cyfle i bawb gyfrannu ar eu telerau eu hunain ac ar eu cyflymder eu hunain, gan drafod postiadau ei gilydd a gwneud sylwadau arnynt. Gall y rhyngweithiadau hyn, os cânt eu cefnogi a’u cymedroli’n briodol gan yr athro/athrawes ar-lein, helpu i feithrin ymdeimlad o gymuned ymhlith y dysgwyr sydd, yn ei dro, yn gallu arwain at ddatblygu cymorth gan gymheiriaid. Mae cymorth gan gymheiriaid yn agwedd allweddol ar bersonoli oherwydd ei fod yn caniatáu i ddysgwyr archwilio a dysgu ar y cyd, gyda phob aelod o’r grŵp yn cyfrannu yn unol â’i gryfderau.