3.2 Technolegau cymdeithasol i wella presenoldeb
Gellir defnyddio rhai adnoddau cyfryngau cymdeithasol wrth addysgu ar-lein i helpu’r dysgwyr i ddatblygu ymdeimlad o le yn y ‘byd ehangach’ a dechrau gwella eu proffil ar-lein (Veletsianos, 2016). Gellir defnyddio blogiau i helpu’r dysgwyr i ddod yn gyfarwydd â myfyrio’n feirniadol ar bwnc penodol a mynegi eu hunain mewn amgylchedd ‘cyhoeddus’, ac i alluogi’r athro/athrawes i roi testun esboniadol wrth ochr deunyddiau’r dosbarth er mwyn rhoi mwy o gyd-destun i’r rhai sy’n absennol wrth iddynt ddal i fyny. Gellir defnyddio Twitter i ddangos pŵer cyfunol, i rannu adnoddau a ganfuwyd, i geisio adborth, ac i gysylltu ag ‘arbenigwyr’ mewn maes pwnc penodol. Byddwn yn archwilio defnyddiau cyfryngau cymdeithasol yn fanylach yn ystod Wythnos 4 y cwrs hwn.
Gweithgaredd 4 Meddwl am rôl cyfryngau cymdeithasol wrth addysgu ar-lein
Edrychwch ar y ffeithlun hwn sy’n awgrymu ystod eang o ffyrdd y gellir defnyddio cyfryngau cymdeithasol ym myd addysg: (Dylech allu clicio ar y ddelwedd i chwyddo i mewn yn agosach.)
Gan ddefnyddio’r adran ‘Sut i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol mewn dosbarth’, ysgrifennwch ddau neu dri syniad yr hoffech roi cynnig arnynt ryw ddydd.
Gadael sylw
Gall adnoddau cyfryngau cymdeithasol fod yn ddefnyddiol wrth addysgu, er y gallai fod angen eu rhoi ar waith yn ofalus. Lluniwyd y gweithgaredd hwn i’ch helpu i ddechrau meddwl am sut gallai cyfryngau cymdeithasol chwarae rôl yn eich addysgu ar-lein, a pha ffactorau y bydd angen i chi eu hystyried wrth eu rhoi ar waith.