Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1 Buddion ymgysylltu â rhwydweithiau ar-lein

Described image
Ffigur 2 Daw pobl at ei gilydd am bob mathau o resymau – cymdeithasol a phroffesiynol – a gall rhwydweithiau helpu â hyn

Fe ddechreuwn ni gyda dyfyniad o erthygl ynglŷn â chysylltu cyfrifiaduron at ei gilydd i ffurfio rhwydweithiau:

‘Gellir rhannu’r rhan fwyaf o fuddion rhwydweithio yn ddau gategori generig: cysylltedd a rhannu. Mae rhwydweithiau’n caniatáu i gyfrifiaduron, ac felly eu defnyddwyr, gael eu cysylltu â’i gilydd. Maent hefyd yn caniatáu ar gyfer rhannu gwybodaeth ac adnoddau’n rhwydd, a chydweithio rhwng y dyfeisiau mewn ffyrdd eraill. Gan fod busnes modern yn dibynnu cymaint ar lif a rheolaeth deallus gwybodaeth, mae hyn yn dweud llawer wrthych ynglŷn â pham mae rhwydweithio mor werthfawr.’

(Kozierok, 2005)

Gydag ambell ddiwygiad, gall y dyfyniad hwn ddisgrifio buddion rhwydweithio cymdeithasol i unrhyw addysgwr:

Gellir rhannu’r rhan fwyaf o fuddion rhwydweithio yn ddau gategori generig: cysylltedd a rhannu. Mae rhwydweithiau’n caniatáu i athrawon gael eu cysylltu â’i gilydd. Maent hefyd yn caniatáu ar gyfer rhannu gwybodaeth ac adnoddau’n rhwydd, a chydweithio rhwng yr athrawon mewn ffyrdd eraill. Gan fod addysg ar-lein yn dibynnu cymaint ar lif a rheolaeth deallus gwybodaeth, mae hyn yn dweud llawer wrthych ynglŷn â pham mae rhwydweithio mor werthfawr.

Fel y byddwch wedi’i weld yn ystod wythnosau blaenorol y cwrs hwn, mae addysgu ar-lein yn gofyn am feddwl, cynllunio, ac efallai ychydig o ddewrder i roi cynnig ar dechnolegau a thechnegau newydd. Gellir lleddfu unrhyw deimladau o nerfusrwydd trwy gael cefnogaeth gan rwydweithiau o bobl sydd naill ai mewn sefyllfa debyg, neu sydd eisoes wedi gwneud yr hyn rydych chi’n dechrau ei wneud. Yn ffodus, yn yr oes sydd ohoni, mae nifer fawr o ddulliau y gallwn eu defnyddio i gymryd rhan mewn rhwydweithiau, gan ein helpu ni i gyd i ddatblygu rhwydwaith personol o’n hamgylch (Ansmann et al., 2014).

Mae’n werth nodi bod rhwydweithio’n anweledig i eraill ac yn rhannol weladwy yn unig i’r cyfranogwyr uniongyrchol mewn unrhyw gyfathrebiad. Mae hyn yn wir p’un a yw’r rhwydweithio’n digwydd wyneb yn wyneb neu ar-lein. Nid yw bob amser yn eglur (weithiau i chi’ch hun, hyd yn oed) p’un a ydych yn rhwydweithio’n weithredol neu’n cael sgwrs yn unig – ac yn aml gall un newid i’r llall heb iddo gael ei gydnabod yn ffurfiol. Weithiau, gall rhwydweithio fod yn amlwg – cyflwyno’ch hun i grŵp mewn cynhadledd wyneb yn wyneb neu bostio mewn fforwm trafod ‘Newydd-ddyfodiaid addysgu ar-lein’, er enghraifft. Ond gall rhwydweithio ddigwydd yn llai ffurfiol o lawer hefyd, er enghraifft trwy ddilyn cyfrifon Twitter perthnasol, neu drwy sgwrsio â chydweithwyr neu gymheiriaid.

Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau rhwydweithio yn arwain at nifer o fuddion, a thrafodir y rhain ar y dudalen ganlynol.