Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.1 Rhannu syniadau

Described image
Ffigur 3 Mae rhwydweithio cymdeithasol yn eich galluogi i ryngweithio sut bynnag rydych chi’n dymuno, ac er mwyn i chi allu canolbwyntio’n fwy ar rwydweithiau a chymunedau penodol, ac ymdrin yn fras â rhai eraill yn fwy achlysurol

Gall athrawon ddefnyddio rhwydweithiau cymdeithasol yn rhwydd i rannu syniadau, awgrymiadau a thriciau addysgu gydag eraill sydd mewn sefyllfa debyg. Gallwch ymuno â rhwydwaith ar-lein a ‘llechu’ yn unig (arsylwi heb gyfrannu), neu, pan fyddwch wedi ymgyfarwyddo â’r ffordd y mae pethau’n cael eu gwneud, fe allech wneud sylwadau ar syniadau pobl eraill, a’u defnyddio i gael ysbrydoliaeth eich hun. Yn y pen draw, fe allwch geisio barn pobl eraill am eich syniadau, a thrwy hynny gael adborth gwerthfawr a gwella’ch deunyddiau cyn iddynt fynd gerbron dysgwyr. Wrth ystyried partneriaethau, rhwydweithiau a chymunedau, mae hefyd yn ddoeth bod yn ymwybodol o’r ‘ffiniau’ posibl rhwng gwahanol fathau o bobl, gwahanol rolau, a hyd yn oed gwahanol raddfeydd cyflog (MacGillivray, 2017) – mae hyn yn rheswm da arall i ‘lechu’ yn gyntaf i asesu’r sefyllfa ym mhob rhwydwaith neu gymuned newydd yr ymunwch ag ef/â hi.