Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.4 Datblygiad proffesiynol

Er bod rhwydweithio cymdeithasol yn gallu cael ei wneud yn anffurfiol a’r tu allan i’r amgylchedd gweithio arferol, gall ei werth i’ch datblygiad proffesiynol fod yn sylweddol (Davis, 2011). Trwy rannu gyda chymheiriaid ac arbenigwyr mewn rhwydweithiau, gallwch ddatblygu’ch sgiliau addysgu ar-lein yn gyflymach nag y byddech ar eich pen eich hun, a datrys problemau y gallech ddod ar eu traws trwy ofyn am gymorth gan eich rhwydwaith. Yn ogystal, y tu hwnt i bwnc addysgu ar-lein, mae datblygu rhwydweithio effeithiol fel sgìl yn ased arall i’ch datblygiad proffesiynol. Erbyn hyn, mae llawer o sefydliadau addysgol yn cefnogi eu staff yn weithredol i ddatblygu rhwydweithiau cymdeithasol ac yn cydnabod gwerth hyn.